Rhaglen Cyngerdd Mawreddog dan nawdd yr Eglwys M.C. yn y Drill Hall, Llandilo / Llandeilo gan unawdwyr ar noson, Nadolig 1918
Rhaglen Cyngerdd Mawreddog dan nawdd yr Eglwys M.C. yn y Drill Hall, Llandilo / Llandeilo gan unawdwyr ar noson, Nadolig 1918
Disgrifiadau
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma rhaglen Cyngerdd Mawreddog a gynhaliwyd dan nawdd yr Eglwys M.C. yn y Drill Hall (Neuadd Victoria/Neuadd Dinesig) gan unawdwyr ar noson Nadolig 1918. Cadeirydd y noson oedd D. I. Williams, Banc Barclays Llandilo / Llandeilo, a’r cyfeilyddes oedd Miss Nancy Jones ALCM, sy’n enw amlwg iawn ym myd cerddoriaeth y dref a’r ardal.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment