Rhaglen Cyngerdd a Datganiad Cerddorol yn Capel Salem M. C. Llandilo / Llandeilo ar 8 Mawrth 1927
Rhaglen Cyngerdd a Datganiad Cerddorol yn Capel Salem M. C. Llandilo / Llandeilo ar 8 Mawrth 1927
Disgrifiadau
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen Cyngerdd a Datganiad Cerddorol yn Capel Salem M.C. Llandilo / Llandeilo ar 8 Mawrth 1927. Cadeirydd y digwyddiad oedd T. H. Jones Esq, a’r organyddes oedd Miss Nancy Jones LRAM.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment