Skip to main content

Llyfr cofnodion Côr Bois Dinefwr, Medi 1971 - Awst 1975

Disgrifiadau

Dyma lyfr cofnodion Côr Bois Dinefwr, Medi 1971 - Awst 1975.

Sefydlwyd Côr Bois Dinefwr gan Noel John ym 1966 fel Bois Dinefwr. Gyda thwf mewn aelodaeth, newidiwyd yr enw i Côr Meibion Dinefwr yn ddiweddarach.

Bu amryw o arweinyddion dros y blynyddoedd yn cynnwys Elwyn Jones, Gerald Anthony, Edgar Jones, Gareth Wyn Thomas, Danny Williams a John Williams tan yn ddiweddar. Cyfeilydd y côr yn ystod y cyfnod yma oedd Mrs Eira Thomas.

Yn y llyfr cofnodion ceir nodiadau am ymarferion, cyngherddau codi arian ac adloniant amrywiol, er enghraifft ar gyfer yr henoed. Cynhaliwyd cyngerdd mawr yn flynyddol gan y côr. Ysgrifennydd y côr yn ystod y cyfnod hwn oedd John B R Davies (Llandybie).

Ym mis Hydref 1971, bu’r côr yn rhan o gyngerdd i groesawu’r Llewod yn ôl o’u taith, gyda nifer o’r Llewod lleol yn bresennol ynghyd ȃ Cliff Morgan a Carwyn James. Yr Unawdydd yn ystod yr achlysur hwn oedd Lavina Thomas.

Dim ond yn achlysurol y bu’r côr yn cystadlu mewn eisteddfodau yn y cyfnod yma, a hynny yn lleol fel arfer. Mae’r llyfr cofnodion hefyd yn cynnwys tocynnau a rhaglenni perthnasol i’r côr. Ar ddiwedd y llyfr cofnodion ceir lluniau cymdeithasol a chrynodeb o’r holl gyngherddau a fu yn ystod y blynyddoedd (45).

Uwchlwytho gan
Dyddiad Ymuno:
14/12/2022
Owner:
Alun & Heulwen Rees
Crëwr:
Pwyllgor Côr Bois Dinefwr Committee
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
30/10/2023
Gwelediadau:
315
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment