Band Tref Llandilo / Llandeilo Datganiad o Gyfrifon, rhwng Tachwedd 1905 - Tachwedd 1906
Disgrifiadau
Band Tref Llandilo / Llandeilo Datganiad o Gyfrifon, rhwng Tachwedd 1905 - Tachwedd 1906. Arweinydd y band oedd Mr W B Watkin, y Trysorydd oedd Mr E Edwards, a'r Ysgrifennydd oedd Mr Thomas J James, Cambrian House. Ymhlith y gwariant oedd llog ar fenthyciad, dysgu proffesiynol, a llogi a goleuo ystafell y band, ynghyd a costau tren a mynediad i'r chwaraewyr band yn y lleoliadau canlynol - Llanymddyfri, Llanwrtyd, Abertawe, Llandeilo a Mwmbwls. Ymhlith y derbyniadau oedd tanysgrifiadau'r flwyddyn a gwobrau ariannol amrywiol, gan gynnwys gwobr gyntaf o £10 (ond derbyniwyd £5 ohono) ar gyfer y West Wales Association Champion Shield ar Bier y Mwmbwls, 1906.
Gwybodaeth ychwanegol am y brodyr Watkin - Roedd Band gwobrwyol y Dref 1905 - 06 yn cynnwys y pum brawd Watkin: Y Bandfeistr W B (Willie) Watkin a ymfudodd yn ddiweddarach i Ganada; Herbert; Johnny; Bob; a Christopher (a ddaeth yn Fandfeistr yn Farics Lanion yn nhref Penfro). Mae Mr W D Watkin, mab Christopher yn dwyn i gof fod dau fand yn Llandeilo ar ddechrau'r 1900au. Arferai Band y Dref ymarfer mewn sied fawr yn y mart, a'r band arall, sef y Band Gwirfoddol oedd yn gysylltiedig a'r Lleng Brydeinig yn ymarfer yn ardal y Bank Buildings. Byddai'r bandiau yn chwarae bob yn ail wythnos ym Mharc Penlan am 7 o'r gloch ar nos Sul yn yr haf, gyda phobl y dref yn ymgynull yno ar ôl gwasanaeth gyda'r hwyr. Mae talentau cerddorol yn rhedeg yn y gwaed gan fod ŵyr Mr Watkin, David Watkin, yn chwaraewr cello o fri.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment