Skip to main content

Daniel Thomas-Jones a Lois Thomas-Jones: 'The Abergwaun Hotel' (2023)

Disgrifiadau

Lede
Nefoedd i bobl y bwyd a hynny yng nghanol tref Abergwaun.

Stori
Mae ymweliad â’r Abergwaun Hotel ar y sgwâr yng nghanol Abergwaun yn hanfodol i bawb sydd â diddordeb mewn bwyd da. Mae'r gwesty yn cael ei redeg gan y cogydd Daniel Thomas-Jones a'i wraig Lois Thomas-Jones. Agorodd Daniel a Lois y drysau yn eu bwyty cyntaf ym mis Tachwedd 2017. Dair blynedd wedyn dyma symud i’r Abergwaun Hotel a’i adnewyddu i safon uchel iawn.

Bydd pawb sy’n mwynhau ei fwyd wrth ei fodd yn blasu danteithion bwyty’r Abergwaun Hotel. Enillodd y cogydd Daniel gategori Cogydd Tafarn y Flwyddyn yng ngwobrau’r Salon Culinaire Rhyngwladol yn gynnar yn 2023. Cafodd ei bryd bwyd buddugol o Leden Lefn, Llysiau’r Gwanwyn, Cwrw Bluestone a Vinaigrette Cocos wedi’u Piclo gyda chafiar y Cymry (gwymon bara lawr wedi'i ddewis â llaw ar lannau Sir Benfro) ei ysbrydoli gan gynnyrch lleol Abergwaun. Mae Daniel wedi cystadlu yn Masterchef: The Professionals yn 2010 ac fe gyrhaeddodd rownd gynderfynol gwobrau Cogydd Cenedlaethol y Flwyddyn yn 2018.

Yn ogystal â bwyd blasus, mae’r Abergwaun Hotel hefyd yn cynnig llety moethus i ymwelwyr gyda golygfeydd dros sgwâr y dref. Mae llwybr yr arfordir a Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn agos iawn. Mae’r Abergwaun Hotel yn westy modern a bwyty Ewropeaidd sy'n llawn treftadaeth Gymreig. Gallwch ddisgwyl blasau clir a chyffyrddiad arloesol llwyddiannus. Nod Daniel a Lois yw creu atgofion cadarnhaol parhaol sy’n golygu mai nhw yw un o’r dewisiadau cyntaf ymhlith y nifer fawr o westai a sefydliadau llety yn Abergwaun.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’w gwefan: www.jtabergwaunhotel.co.uk

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Daniel Thomas-Jones & Lois Thomas-Jones
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
11/7/2023
Gwelediadau:
647
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment