Eluned Ann Kitson, Beth Whitney a Lorna Tuersley: 'Tywyswyr Twristiaid Môn' (2023)
Disgrifiadau
Lede
Mae’r tywyswyr hyn yn angerddol ynglŷn â hanes cyfoethog Ynys Môn.
Stori
Mae Beth, Lorna, ac Ann yn dywyswyr sydd â chymhwyster Cymdeithas Tywyswyr Twristiaid Swyddogol Cymru ac sy’n frwd dros hanes Ynys Môn. Maen nhw ymhlith sylfaenwyr Tywyswyr Twristiaid Môn, grŵp a ddaeth at ei gilydd yn sgil cwrs hyfforddi ‘Bathodyn Gwyn’ i arwain teithiau cerdded.
Maen nhw’n bencampwyr dros asedau twristiaeth a threftadaeth Caergybi ac maen nhw ar gael ar gyfer teithiau grŵp neu deithiau unigol. Gallwch eu gweld yn mynd ag ymwelwyr o’r llongau mordaith ar deithiau cerdded ar hyd glan y môr a thrwy dref Caergybi, i’w cyflwyno i hanes cyfoethog a hynod ddiddorol y dref, ei hadeiladau a’i henebion morol.
Mae eu cariad at etifeddiaeth enfawr Môn yn amlwg yn eu gwybodaeth a'u brwdfrydedd. Mae eu cartrefi mewn gwahanol rannau o'r ynys a chan fod ganddyn nhw amrywiaeth o ddiddordebau hanesyddol, mae ganddyn nhw gynlluniau i ymestyn eu hardal er mwyn cynnwys lleoedd fel Porthaethwy, Amlwch, arfordir y de-orllewin ac ymhellach i ffwrdd. Mae’n bosibl y bydd Beth hefyd yn cael ei hargyhoeddi i ehangu ei swydd arall (hel achau), i gynnwys teithiau o amgylch rhai o’r 100 o fynwentydd ym Môn.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment