Skip to main content

Jacqui a Peter Hornsby: 'Gwesty’r Ferryboat' (2023)

Disgrifiadau

Lede
Ymddeoliad gwahanol i’r perchnogion Jacqui a Peter.

Stori
Yng nghanol tref Abergwaun, cwta 500m o fynedfa harbwr/porthladd Stena mae gwesty steilus a chyffyrddus y Ferryboat (a godwyd yn null y ‘tŷ hir’ Cymreig traddodiadol). Mae'r perchnogion Jacqui a Peter yn rhedeg y lllety gwely a brecwast fel eu prosiect lled-ymddeol. Ar ôl treulio blynyddoedd yn rhedeg eu cwmni logisteg eu hunain yng Ngorllewin Sussex, dechreuodd yr oriau hir a’r pwysau mawr effeithio arnyn nhw a dyma wneud y penderfyniad pendant i chwilio am lety Gwely a Brecwast. Doedden nhw ddim yn edrych ar unrhyw leoliad penodol ac fe gawson nhw eu synnu pan ddaethon nhw o hyd i westy'r Ferryboat a sylweddoli ei fod yn ticio pob blwch. Daethon nhw i ymweld â Sir Benfro a chael bod y cyfan “mor heddychlon a thawel. Mae’r cefn gwlad yn syfrdanol, mae'r arfordir yn brydferth, ac mae'r bobl mor gyfeillgar”. Syrthiodd y ddau mewn cariad.

Ar ôl cymryd yr awenau yn y Ferryboat dyma sylweddoli bod ei gyflwr yn waeth na'r disgwyl yn wreiddiol. Yna dechreuodd pum mlynedd o gynnwrf gyda Brexit, Covid a nawr rhyfel Wcráin, wrth iddyn nhw adnewyddu’r busnes a’r cartref. Er hynny, mae Jacqui a Peter wedi troi gwesty’r Ferryboat yn llety bywiog a chroesawgar. Mae pob un o'u saith ystafell ensuite i westeion yn unigryw yn eu ffordd eu hunain: ystafelloedd clyd llawn lliw a steil gyda sylw i fanylion. O garpedi trwchus i ddodrefn modern syml, gwelyau hynod gyffyrddus, llwyth o nwyddau ar hambwrdd i’ch croesawu, pethau ymolchi am ddim a hyd yn oed eich trît mintys siocled cyn clwydo. Maen nhw hefyd yn cynnig bar gonestrwydd bach ond amrywiol ar ben eich cysuron corfforol. Mae gan bob un o'r ystafelloedd setiau teledu clyfar a WIFI am ddim.

I frecwast mae Jacqui a Peter yn cynnig bwydlen amrywiol o brydau poeth (wedi'u coginio'n ffres ar ôl ichi archebu) i ateb bron pob chwaeth ac anghenion alergedd. Gweinir wrth y bwrdd yn eu stafell frecwast lachar a modern ac maen nhw hefyd yn cynnig opsiynau brecwast cyfandirol hunan-wasanaeth.

Gan fod Jacqui a Peter bellach wedi cyflawni bron y cyfan y maen nhw wedi bwriadu ei wneud gyda'r gwesty maen nhw’n rhydd i fwynhau eu hanner-ymddeoliad: “mae'n hollol wahanol i'n busnes blaenorol ni ym mhob ffordd. Nawr bod yr holl waith caled wedi'i wneud rŷn ni'n dechrau mwynhau lle rŷn ni'n byw. Rŷn ni wrth ein bodd yn cwrdd â phobl newydd ac mae Jacqui wrth ei bodd yn coginio. Mae hi bron fel petai’r swydd wedi'i chreu inni.” I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu llety yng Ngwesty’r Ferryboat, ewch i’w gwefan: ferryboatinn.co.uk

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Jacqui & Peter Hornsby
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
11/7/2023
Gwelediadau:
491
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment