Martin Crampin: 'Twr Elin' (2023)
Disgrifiadau
Lede
Mae'r tŵr gwyngalchog castellog ar y clogwyni ger Ynys Lawd yn cael ei adnabod fel Tŵr Elin.
Stori
Codwyd y ffoledd deulawr hwn ym 1868 ar gyfer Ellin neu Ellen Stanley. Roedd Ellen yn hanu o deulu Williams Bodelwyddan ger Llanelwy a phriododd â William Owen Stanley o Benrhos ym 1832. Roedden nhw'n byw ym mhlas Penrhos ger Caergybi, oedd ar un adeg yn ganolbwynt i ystâd fawr, ond a gafodd ei ddymchwel yng nghanol yr ugeinfed ganrif ar ôl mynd â’i ben iddo wedi'r Ail Ryfel Byd.
William Owen Stanley oedd AS Rhyddfrydol Ynys Môn o 1837 hyd 1847, ac wedyn bu’n AS Caer ac wedyn bwrdesitrefi Môn. Bu'n Arglwydd Raglaw Ynys Môn o 1869 hyd ei farwolaeth ym 1884. Roedd yn adnabyddus fel hynafiaethydd ac arweiniodd gloddiadau mewn amryw o safleoedd yn Ynys Môn, gan gyhoeddi yn y cylchgrawn Archaeologia Cambrensis. Cafodd rhai o'i ddarganfyddiadau archaeolegol, gan gynnwys y rhai a ganfuwyd yng nghylchoedd cytiau Mynydd Twr, eu cadw yn Nhŵr Elin, cyn cael eu rhoi i'r Amgueddfa Brydeinig. Roedd ei gasgliad yn cynnwys amrywiaeth o lestri cynhanesyddol a Rhufeinig-Frythonig, pennau wyeill o Oes y Cerrig neu'r Oes Efydd, clustiau mygiau cwrw Rhufeinig-Frythonig, a broets bylchgrwn canoloesol cynnar.
Roedd W.O. Stanley yn noddwr pwysig i Gaergybi, gan gyfrannu £4000 at adfer eglwys Cybi Sant ar ddiwedd y 1870au. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am godi Neuadd y Farchnad ym 1855, sydd bellach yn gartref i lyfrgell y dref. Bu farw Elin cyn ei gŵr ym 1876, ond rhoddodd arian o'r neilltu yn ei hewyllys ar gyfer capel a chofeb ryfeddol i William Owen Stanley yn Eglwys Cybi Sant. Ni chwblhawyd y gofeb tan ymhell ar ôl ei farwolaeth ym 1884. Cerfiwyd delw Stanley gydag angylion mawr wrth ei ben a'i draed gan y cerflunydd Hamo Thornycroft yn Llundain ym 1897 a gwnaed ffenestr uwchben y gofeb gan gwmni Morris & Co., hefyd ym 1897. Mae'n ffenestr anarferol ar gyfer ei chyfnod, gyda dail a ffrwythau ond heb unrhyw ffigurau. Ar y llaw arall, darparodd cyfeillion Ellin Stanley wydr lliw er cof amdani hi a ychwanegwyd at ffenestr yn y capel, sydd â ffigyrau o dair santes, Dorothy, Theresa ac Agnes. Gwaith Morris & Co oedd y ffenestr hon hefyd, gan ddefnyddio ffigurau a ddyluniwyd gan Edward Burne-Jones.
Yn ôl traddodiad y teulu roedd Ellin yn 'ddynes sanctaidd oedd yn ymroi’n fawr i wneud gwaith da', mewn cyferbyniad â thymer dreisgar ei gŵr William. Ef oedd gefell iau Edward John, a etifeddodd deitl yr ail farwn Stanley o Alderley. Trodd ei nai Henry, y trydydd barwn, at Islam a daeth yn aelod Mwslimaidd cyntaf Tŷ'r Arglwyddi ym 1869. Ni wnaeth hyn ei atal rhag talu am adfer eglwysi yn Llanbadrig a Bodewryd yng ngogledd Môn, a gafodd eu dodrefnu â gwydr addurnol mewn arddull Islamaidd. Efallai mai ei ddylanwad ef sy’n gyfrifol am y diffyg ffigurau yn ffenestr ddwyreiniol Capel Stanley yn Eglwys Cybi Sant gyda ffrwythau a blodau gan Morris & Co. Mae'n bosibl bod y cysylltiad â Morris & Co. wedi’i wneud drwy Rosalind, chwaer W.O. Stanley, a briododd â George James Howard, nawfed iarll Caerliwelydd. Roedd y ddau yn ffrindiau agos i William Morris ac Edward Burne-Jones, er i Morris farw ym 1896 ac er ei bod yn debyg nad oedd gan Burne-Jones lawer i'w wneud â'r naill gomisiwn na'r llall.
Mae Tŵr Elin bellach yn ganolfan wybodaeth i'r RSPB.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment