Dawny Tootes a Petra Bourne: 'Oriel Gelf Dockside, Doc Penfro' (2023)
Disgrifiadau
Lede
Mae Dawny Tootes wedi creu lle arddangos hardd i’w cherfluniau ei hun ac i waith artistiaid lleol.
Stori
Mae’r cerfluniau disglair sydd i’w gweld yn Oriel Gelf Dockside bron mor ddisglair â’r perchennog o artist Dawny Tootes a rheolwr gwych yr oriel, Petra Bourne. Mae yma nid yn unig oriel bwrpasol, ond croeso a sgwrs gynnes i’r gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Dechreuodd Dawny ei hyfforddiant fel artist yng Ngholeg Technegol Penbedw sy’n rhan o Brifysgol John Moore. Parhaodd â’i haddysg celfyddyd gain yn NEWI, Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam. Ar ôl symud i ogledd Sir Benfro, cafodd ei chyflwyno i ffowndri MB Fine Arts yng Nghlunderwen gan ei deliwr celf a’i mentor Myles Pepper o Ganolfan Celfyddydau Gorllewin Cymru yn Abergwaun. Roedd Dawny bob amser yn caru cerflunwaith, ond y ffowndri yw’r fan lle daeth hi o hyd i’r deunydd oedd yn ysbrydoliaeth iddi – alwminiwm wedi’i ailgylchu.
Erbyn hyn mae Dawny’n creu ei cherfluniau yn ei stiwdio ffowndri ar fferm wrth droed Mynydd Preseli. Yma mae hi’n cadw crwsibl a gafodd ei adeiladu’n unswydd ac sy’n gallu toddi wyth olwyn car aloi, ac o’r rhain mae hi’n gwneud ei cherfluniau hylifol o alwminiwm tawdd. Mae’r cerfluniau hyn yn amrywio o galonnau rhamantus, i ddreigiau brawychus Cymru, i gyfansoddiadau tirwedd epig i’w gosod ar waliau, coed ar raddfa fawr a cherfluniau o ffurfiau benywaidd sy’n sefyll ar eu traed eu hunain – ei ‘Hawenau’.
Ynghyd â gwaith Dawny, mae’r oriel hefyd yn cynnal arddangosfeydd gan artistiaid lleol, ac mae hefyd yn cadw amrywiaeth o grefftau a chardiau post sydd wedi’u curadu’n ofalus o ffynonellau lleol. Mae’r oriel ar brif dramwyfa Doc Penfro, sef Dimond Street, ac mae’n rhaid ichi ymweld â hi pan fyddwch yn teithio drwodd, neu’n well byth, yn aros yn Noc Penfro.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment