'Canolfan Ucheldre Centre' (2023)
Disgrifiadau
Lede
Calon diwylliant Caergybi
Stori
nghanol Caergybi, funudau’n unig o’r porthladd. Cafodd yr adeilad ei achub rhag ei ddymchwel gan drigolion lleol ar ddiwedd y 1980au ac aeth ymlaen i fod yn un o brif ganolfannau celf Cymru. Cafodd cost adnewyddu’r Ganolfan a’i thiroedd ei thalu ar ddechrau’r 1990au gan bartneriaeth yn cynnwys y Swyddfa Gymreig, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Môn, ac Asiantaeth Datblygu Cymru. Mae rhai o’r cyfleusterau hefyd wedi dod o grantiau gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, a’r Sefydliad Chwaraeon a’r Celfyddydau.
Mae’r adeilad bellach yn gartref i le perfformio â 150 o seddi ac amffitheatr â 120 o seddi wedi’i hamgylchynu gan goed, llwyni, a bwa tresi aur. Mae rhaglen Ucheldre yn eang ac yn cynnwys cyngherddau, drama, ffilm, darllediadau lloeren, gweithdai amrywiol, clybiau a chymdeithasau a digwyddiadau llenyddol. Mae’r prif arddangosfeydd celf fel arfer yn newid bob chwe wythnos, gan ddod ag olyniaeth gyson o waith newydd a diddorol i Ynys Môn. Mae rhaglenni amrywiol Ucheldre yn plethu dwy elfen bwysig: mae perfformwyr ac artistiaid o statws rhyngwladol yn dod â chelfyddydau o safon uchel i Ynys Môn, a digwyddiadau cymunedol i feithrin a dathlu creadigrwydd pobl leol.
Mae Ucheldre yn cael ei lywodraethu gan grŵp o Ymddiriedolwyr/Cyfarwyddwyr gwirfoddol etholedig sy’n dirprwyo’r gwaith beunyddiol i Reolwr Cyffredinol a staff, gyda chymorth tîm o wirfoddolwyr sy’n rhoi dros 100 awr o amser bob wythnos ar y cyd. Mae yna fwyty Cegin Ucheldre, siop, tiroedd a gardd gerfluniau furiog hefyd. Mae’r Ganolfan yn rhan bwysig o fywyd diwylliannol Caergybi, ond mae hefyd yn cael ei defnyddio’n aml gan bobl sy’n ymweld ag Eryri gerllaw, yn teithio ar fferi yn ôl ac ymlaen i Iwerddon, ac mae’n hawdd ei chyrraedd trwy gysylltiadau’r brif reilffordd neu ar hyd yr A55 o Ogledd Cymru gyfan.
Mae Ucheldre wedi cael Cyllid Codi’r GGwastad gan lywodraeth y Deyrnas Unedig gyda grant cyfatebol gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ychwanegiadau helaeth (stiwdios dawns a chelf) a gwaith adnewyddu. Bydd rhywfaint o jyglo cyfleusterau dros y ddwy flynedd nesaf gyda’r gegin er enghraifft wedi’i chyfyngu i ddarparu lluniaeth a chacennau. Er hynny, mae Ucheldre’n anelu at aros yn agored gyda rhaglen yr un mor ddeniadol ag erioed. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar eu gwefan: https://ucheldre.org
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment