Martin Crampin: ' Capel y Santes Ffraid ym Mae Trearddur, Ynys Gybi' (2023)
Disgrifiadau
Lede
Mae capel coll sydd wedi'i gysegru i’r Santes Ffraid ar Ynys Gybi yn dangos pwysigrwydd y santes Wyddelig hon i'r ardal o amgylch Caergybi yn yr Oesoedd Canol.
Stori
Mae'n debyg mai cysegrfa Cybi Sant yn yr eglwys yng Nghaergybi oedd y pwysicaf o blith y gwahanol saint ar Ynys Gybi yn yr Oesoedd Canol, ond roedd yna saint eraill hefyd yn cael eu mawrygu ar Ynys Gybi, yr ynys fwyaf oddi ar arfordir Ynys Môn.
Mae'n ymddangos bod yr eglwys yn Rhoscolyn i'r de o Ynys Gybi wedi'i chysegru i’r Santes Gwenfaen, nad oes llawer iawn yn hysbys amdani, ac yn Nhywynycapel, lleoliad cyrchfan bresennol Bae Trearddur, roedd yna gapel a gysegrwyd i’r Santes Ffraid ar un adeg. Hen enw’r bae oedd Bae Sain Ffraid, a gwyddys am gysylltiad â'r santes o dystiolaeth enwau lleoedd sy'n dyddio'n ôl i'r unfed ganrif ar bymtheg.
Ffraid yw'r enw Cymraeg ar y santes sydd fel arfer yn cael i galw’n Bridget, Brigid neu Bride yn Saesneg, sydd â chysylltiad agos â Childara. Roedd y capel a gysegrwyd iddi ar Ynys Gybi yn adfeilion ar dwmpath ar y traeth yn Nhywynycapel ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, a chafodd llun ohono ei dynnu gan yr arlunydd Moses Griffith i’w feistr Thomas Pennant ym 1776.
Prin bod modd adnabod y dirwedd yn y darlun erbyn hyn ac mae'r capel, a'r twmpath y safai arno, wedi’u colli i'r môr. Daeth claddedigaethau o gwmpas y capel yn agored i'r elfennau ac ym 1868 adroddodd yr hynafiaethydd lleol William Owen Stanley fod y capel wedi ei olchi i ffwrdd yn llwyr. Roedd cloddiad diweddar yn 2003–4 ar y safle yn awgrymu ei fod yn cael ei ddefnyddio o'r seithfed ganrif hyd y ddeuddegfed ganrif. Darganfuwyd broets bylchgrwn efydd o'r wythfed neu'r nawfed ganrif yn agos i'r safle ym 1980, sydd bellach yng nghasgliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Cafodd y Santes Ffraid ei chofio pan gafodd yr eglwys newydd a adeiladwyd ym Mae Trearddur yn 1930–2 ei chysegru. Disodlodd yr eglwys garreg hon eglwys bren dros dro a oedd wedi’i hailgodi ddwywaith ar wahanol safleoedd ers cael ei chodi am y tro cyntaf ym 1898. Cynhwyswyd delwedd o Ffraid yn ffenestr ddwyreiniol yr eglwys a osodwyd ym 1940 a'i gwneud gan yr arlunydd Christopher Charles Powell.
Yn y ffenestr mae hi'n sefyll ar dywarchen sy'n ymddangos fel pe bai'n arnofio ar ddŵr. Mae cerdd o'r unfed ganrif ar bymtheg gan Iorwerth Fynglwyd yn cyfeirio at draddodiad iddi deithio ar draws y môr o Iwerddon i Gymru ar dyweirch, gan gyrraedd aber afon Dyfi yn y Canolbarth. Mae traddodiadau eraill yn dweud iddi gyrraedd Degannwy, yn agos at Lansanffraid Glanconwy, ac yn Nhywynycapel.
Mae Ffraid yn dal tân yn ei llaw dde, sef symbol sy'n cyfeirio at y tân parhaol a gynhelir gan ei lleianod yng Nghildara, fel y tystiwyd gan Gerallt Gymro ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif. Defnyddir symbol tân ar groes y mileniwm sydd wedi’i gosod ochr yn ochr â'r promenâd ym Mae Trearddur, sy'n nodi safle capel coll y Santes Ffraid yn y twyni.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment