Martin Crampin: 'Gwydr Lliw yn Eglwys Seiriol Sant' (2023)
Disgrifiadau
Lede (Welsh)
Mae Eglwys Seiriol Sant wedi hen ddiflannu o Gaergybi, ond mae peth o'i gwydr lliw i'w weld yno o hyd.
Stori
Mae delweddau dau sant i'w gweld mewn mosäig o wydr Fenis wrth fynedfa’r Porth Celtaidd yng Nghaergybi. Mae un yn dangos Cybi Sant, y mae ei eglwys i’w chael ar dir y gaer Rufeinig, a chafodd eglwys Fictoraidd ei chodi yng Nghaergybi yn y 1850au a'i chysegru i Seiriol Sant.
Roedd meindwr Eglwys Seiriol Sant yn arfer bod yn dirnod lleol ac yn bwynt mordwyo defnyddiol i forwyr o amgylch Caergybi. Lleolwyd yr eglwys ar Porth-y-Felin Road ac fe'i hadeiladwyd ym 1853–4. Yn sgil problemau strwythurol cafodd yr eglwys ei chau ym 1989 a chafodd ei dymchwel ym 1992.
Comisiynwyd o leiaf saith ffenestr liw ar gyfer yr eglwys. Mae'r rhan fwyaf wedi goroesi ac mae rhai yn dal yng Nghaergybi, a chafodd placiau a dodrefn eraill o'r eglwys eu hachub hefyd.
Cafodd y ffenestr wydr lliw gynharaf rydyn ni’n gwybod amdani ei gosod ym mur dwyreiniol ystlys ddeheuol yr eglwys; fe'i rhoddwyd er cof am yr Is-lyngesydd Charles Frederic Schomberg, a fu farw yng Nghaergybi ym mis Medi 1874. Mae llawer o'r ffenestr bellach i'w weld yn Amgueddfa Forwrol Caergybi ac yn dangos Crist yn dysgu ar gwch wrth lan y llyn a Christ yn tawelu'r storm. Gellir priodoli'r ffenestr i gwmni Heaton, Butler & Bayne o Lundain, ac mae fersiwn arall o'r ffenestr gyda'r un golygfeydd i'w gweld mewn eglwys mewn lleoliad arall ar y glannau yn Fowey yng Nghernyw.
Roedd yna ffenestri a chofebau eraill yn gysylltiedig ag unigolion a fu’n ymwneud â'r croesiad o Gaergybi. Comisiynwyd ffenestr nad yw wedi goroesi gan Thomas Liddicoat, a fu'n Gomander yng Ngwasanaeth Brys Caergybi a Dulyn, er cof am ei wraig Sophie a'i unig ferch Ethel Maude. Rhoddwyd plac i goffáu Thomas Hirste (a fu farw ym 1861), Uwcharolygydd Rheilffordd Caer a Chaergybi a Sefydliad Morol y London and North Western Railway yng Nghaergybi.
Roedd ffenestr ddwyreiniol yr eglwys y tu ôl i'r brif allor yn gofeb Rhyfel Byd Cyntaf gan gwmni C.E. Kempe & Co o Lundain. Roedd y ffenestr yn cynnwys golygfa o’r croeshoeliad yn y canol gyda ffigurau Dewi Sant a Deiniol Sant yn sefyll o boptu iddo. Roedd ffigurau ar eu gliniau wrth droed y groes yn cynrychioli seintiau Môn, sef Cybi Sant a Seiriol Sant, nawddsaint y ddwy eglwys Anglicanaidd fawr yng Nghaergybi. Prynwyd y ffenestr gan Ysgol Tonbridge, lle cafodd ei gosod yn ffenestr ddwyreiniol fawr eu capel nhw.
Ychwanegwyd o leiaf bedair ffenestr arall i'r eglwys cyn iddi gau ym 1989, a'r rhain i gyd yn waith stiwdios gwahanol. Mae ail ffenestr sydd wedi goroesi yn Amgueddfa Forwrol Caergybi yn dod o gwmni Shrigley & Hunt yng Nghaerhirfryn ac mae'n coffáu dau frawd a foddwyd ym 1930, pan fu farw Cecil Ralph Bulmer yn ei ymgais i achub ei frawd iau Francis Hubert.
Cafodd ffenestr sy’n dyddio o 1935 yn Eglwys Seiriol Sant ei chreu gan gwmni William Morris, drwy ailddefnyddio dyluniadau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan Edward Burne-Jones, ac mae mwy o ffenestri gan y cwmni i'w gweld yn Eglwys Cybi Sant yng Nghaergybi ac yn Rhoscolyn, i'r de o Ynys Gybi. Tua 1956 gwnaeth yr arlunydd Hugh Easton, a wnaeth ffenestr i Cybi Sant ym 1950, ffenestr i Seiriol Sant gyda ffigyrau Sant Nicolas a Sant Steffan. Mae'n ymddangos bod y ddwy ffenestr yma o Sant Seiriol wedi cael eu gwerthu i gasglwyr preifat.
Cafodd un ffenestr yn yr eglwys ei symud i Eglwys Cybi Sant yng Nghaergybi, a roddwyd er cof am Francis Bell a'i wraig Florence ym 1982, ychydig flynyddoedd yn unig cyn i'r eglwys gau. Gwnaed y ffenestr gan gwmni Celtic Studios, Abertawe, ac mae'n darlunio Crist gyda bachgen o sgowt, gan fod Francis Bell wedi bod yn sgowtfeistr.
Un eitem arall a wnaed ar gyfer Eglwys Seiriol Sant oedd ffigwr Crist ar y Grog a gerfiwyd gan yr arlunydd o Gymro Jonah Jones yn 1979. Mae'n ymddangos i’r Grog gael ei symud gan y rhoddwyr i Eglwys yr Holl Saint yn Llanelli ar ddechrau'r 1980au pan symudodd y teulu i’r De. Ysbrydolodd y ffigwr un arall i gael ei gomisiynu ar gyfer eglwys arall yn Llanelli gan yr un artist ym 1983, ond erbyn 2010 roedd y ddwy eglwys yn Llanelli hefyd wedi’u cau. Nid yw lleoliad ffigwr Crist o Eglwys Seiriol Sant yn hysbys ond mae'r llall, a wnaed ym 1983, yn sefyll ar dir Eglwys y Santes Fair, Dinbych-y-pysgod.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment