Sally Sadler: 'Gweithiau Richard Fenton, Rhan II' (2022)
Disgrifiadau
Lede
Llênor a hanesydd sylweddol bu Richard Fenton (1747-1821), a ddaeth i fyw yn Abergwaun ym 1793.
Stori
Llênor a hanesydd sylweddol bu Richard Fenton (1747-1821), a ddaeth i fyw yn Abergwaun ym 1793: cafodd enw fel cyfreithiwr, hynafiaethydd ac awdur ysgrifau teithio. Ymhlith ei gyhoeddiadau mwyaf dylanwadol oedd golygiad o waith hanesyddol George Owen, Henllys (1552-1613), a dynnwyd gan Fenton o lawysgrif yn nwylo ei hen dadcu, John Lewis, Manorowen.
Ym 1796 cyhoeddodd Fenton fersiwn gyflawn o’r Description of Pembrokeshire gan Owen, gan ryddhau’r testun pwysig hwn i ddarllenwyr ac ymchwilwyr am y tro cyntaf, ac yn dylanwadu’n sylweddol ar astudiaethau hanesyddol canlynol. Lledaenodd syniadau Owen am y terfyn ieithyddol (y llinell ‘Landsker’), er enghraifft, ac am mewnfudiad cymunedau o Fflandrys, ymhlith haneswyr Sir Benfro ac eraill.
Ond yn y Cambrian Register ar gyfer y flwyddyn 1795 cyflwynodd Fenton lais George Owen i’w ddarllenwyr am y tro cyntaf, gan roi blas ar ei arddull bywiog gyda darn am y gêm enwog knappan (‘cnapan’), oedd dal yn boblogaidd yng ngogledd y sir yn oes Owen. Bob blwyddyn adeg y Pasg cynhaliwyd y gêm yn y plwyfi arfordirol gogleddol i Abergwaun. Dros sawl tudalen ceir disgrifiad byrlymus a didrugaredd o’r ‘unruly play’, gyda manylion ysgytwol am sut byddai trigolion y plwyfi’n cystadlu’n erbyn ei gilydd. Byddant weithiau’n brifo neu hyd yn oed marw wrth ymladd dros bêl fach bren wedi ei gerfio allan o ‘box, ewe, crabb or holy-tree [... ] boyled in tallowe for to make it slippery, and hard to be holden’.
And in this sorte you shall in an open feeld see 2000 naked people follow this boule backwarde and forwarde, Est, West, South, and North; soe that a straunger that casuallie should see such a multitude soe ranging naked, would thinke them distracted…in the furie of the chase, they respect neither hedge, ditch, pale, or walle, hille, dale, bushes, river, or rocke…
Roedd gwaith Owen yn ffynhonnell bwysig wrth i Fenton gyfansoddi ei waith mawr ei hun, An Historical Tour of Pembrokeshire (1810/11). Cyhoeddodd yn ogystal ddau lyfr ffraeth a dychanol, A Tour in Quest of Genealogy (1811) a Memoirs of an Old Wig (1815), y ddau wedi’u cyhoeddi’n ddi-enw. Bu fawr Fenton yn Glynamel, Abergwaun ym 1821 a’i gladdu ym Manorowen, lle mae cofeb iddo tu fewn yr eglwys.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment