Natasha de Chroustchoff: 'Y Pentref a gollodd ei Eglwys' (2021)
Disgrifiadau
Lede
Collodd pentrefwyr Cwmyreglwys eu heglwys yn yr un storm ddinistriol ym 1859 ag a suddodd y Royal Charter.
Rhwng 25 a 26 Hydref 1859, cafodd Môr Iwerddon ei daro gan un o stormydd cryfaf y 19eg ganrif. Mae’r storm yn cael ei hadnabod fel storm y ‘Royal Charter’ ar ôl y llong “Royal Charter” a gafodd ei dal ar ei ffordd o Awstralia i Brydain, yn cario pum cant o deithwyr a swm anferth o fwliwn aur gwerthfawr. Yn dilyn arhosiad byr yn Queenstown (Cobh erbyn hyn) yng Nghorc, ymadawodd y “Royal Charter” ar 25 Hydref 1859 i fynd i’w chyrchfan derfynol yn Lerpwl. Wrth i’r gwyntoedd waethygu, angorodd y llong oddi ar lannau gogledd Ynys Môn i aros i’r storm gilio. Ond ar fore 26 Hydref 1859, cafodd y llong ei chwilfriwio wrth i wyntoedd cryf ei gwthio i glogwyni Moelfre, ar arfordir gogledd-ddwyreiniol yr ynys. Bu farw tua 450 o bobl ar y Royal Charter a chafodd cyfanswm o ryw 800 o fywydau eu colli yn y storm.
Ym mhentref pysgota bach Cwmyreglwys, ychydig filltiroedd i’r dwyrain o Abergwaun, wyddai’r trigolion ddim byd am y drychineb forol oedd yn yr arfaeth pan ymgasglodd pawb yn eu heglwys ganoloesol ar gyfer y gwasanaeth yn gynnar ar noson 25 Hydref 1859. Fe wyddai pawb fod tywydd stormus yn codi o’r gorllewin a bod llanw mawr yn nesáu at ben uchaf y traeth. Roedd dau gae wedi bod islaw’r eglwys a’r fynwent ar un adeg, ond dim ond rhimyn o laswellt oedd yno bellach ac nid oedd yn gwbl anghyffredin i ran isaf y fynwent gael ei gorlifo. Ddwy waith o’r blaen roedd y môr wedi torri i mewn i’r eglwys ac ym 1850 roedd wedi golchi’r gangell i ffwrdd.
Ar ddiwedd y prynhawn arbennig hwn, yn ddisymwth dyma’r gwynt mawr yn gwyro o’r gorllewin i’r gogledd-ogledd-ddwyrain, a disgwylid y llanw uchel am 6.41pm. Roedd y pentref bellach yn agored i rym llawn y gwynt. Gyrrwyd tair llong a fu’n cysgodi o dan y trwyn gerllaw i’r creigiau; doedd dim modd achub y criwiau. Mae’n siŵr bod y gynulleidfa yn yr eglwys, lawer ohonyn nhw’n perthyn i deuluoedd morwrol, yn gweddïo am achubiaeth ond ar anterth y storm dyma ymchwydd y llanw, a yrrwyd gan y gwynt, yn chwalu drws y dwyrain ac ar draws corff yr eglwys, gan ddymchwel waliau gogleddol a dwyreiniol yr adeilad. Yn wyrthiol, chafodd neb ei golli na’i anafu yn y dryswch a llwyddodd yr addolwyr i gyd i ddianc drwy ddrws y gorllewin. Serch hynny, y fynwent a ddioddefodd rym llawn y tonnau a chafodd ei hanner ei olchi i ffwrdd. Cafodd eirch eu codi neu eu torri a gwelwyd rhai ar frig y dŵr, gyda chyrff rhai oedd wedi marw’n ddiweddar yn weladwy i’w teuluoedd.
Wnaeth y storm ddim gostegu tan 6 o’r gloch fore trannoeth. Aeth un morwr ifanc, oedd yn digwydd bod gartref o’r môr, â chwch ei dad-cu allan yn y golau cyntaf ac achub nifer o’r eirch, gan eu llusgo i’r lan â rhaff wedi’i chlymu wrth y dolenni. Cafodd cyrff y morwyr a foddwyd eu golchi i’r lan y diwrnod wedyn a gosodwyd y saith dyn marw i orwedd yn yr eglwys adfeiliedig ddi-do.
Daeth storm y Royal Charter â marwolaeth a dinistr ar hyd glannau Gogledd Sir Benfro. Ond ni welodd unman fwy o drychineb na Chwmyreglwys. Doedd dim modd trwsio’r eglwys ac adeiladwyd un newydd ar dir uwch. Symudodd llawer o’r trigolion sigledig i fyny’r bryn ac yn y pen draw crëwyd anheddiad newydd yn nes at y ffordd dyrpeg. Ar ôl cael ei tharo’n aml gan donnau a gododd ragor o eirch, cyrff ac esgyrn, cafodd y fynwent wal gynnal gadarn ym 1882 a chafodd gweddillion pob ysgerbwd eu claddu mewn bedd cymunedol y tu ôl iddi. Bu’n rhaid atgyfnerthu a thrwsio’r wal hon sawl gwaith yn sgil difrod stormydd, fel yn ddiweddar yn 1979 a 2007.
Heddiw, mae’r torfeydd sy’n dod ar eu gwyliau i Gwmyreglwys yn gallu gweld model o gwch bach, o waith gof lleol, gerllaw’r glwyd.
Mae olion yr eglwys hynafol (a sefydlwyd yn wreiddiol gan Brynach Sant o Iwerddon) yn dal i sefyll uwchben y traeth. Ar y brig mae ceiliog gwynt ar ffurf pysgodyn. Heddiw, does dim angen inni wybod pa ffordd mae’r gwynt yn chwythu. Yn sgil storm y Royal Charter y dechreuodd rhagolygon tywydd fel rydyn ni’n eu hadnabod. Y flwyddyn wedyn, 1860, a welodd ddechrau system o rybuddion stormydd a gâi eu mynegi gan y telegraff o amgylch y glannau ac ym 1861 dechreuodd rhagolygon tywydd gael eu hargraffu mewn papurau newydd. Serch hynny, penderfynu ymadael wnaeth y pentrefwyr ac ni ddychwelodd neb erioed i Gwmyreglwys.
Yn 2009, lluniodd Emyr Lewis, oedd yn gyfarwydd â’r lle ar ôl cael gwyliau yno yn ei blentyndod, y llinellau hyn:
Gwylan haerllug a glaw yn arllwys,
cŵn, tai haf ac acenion Tafwys,
tonnau a beddau ar bwys, a chreigle;
mae rhyw wagle yng Nghwm-yr-Eglwys.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment