Skip to main content

Natasha de Chroustchoff: 'Trasiedi Goleudy’r Smalls' (2021)

Disgrifiadau

Lede
Stori o 1801 am farwolaeth, paranoia ac unigedd, addasiad gan Hollywood a sut y newidiodd y rheolau ar gadw goleudai.

Stori
Roedd y clwstwr creigiau o’r enw The Smalls, 20 milltir oddi ar arfordir y De-orllewin, yn berygl mawr i longau, ac yn adnabyddus oherwydd y deufor-gyfarfod ffyrnig, tan 1777 pan gafodd goleudy pren anghyffredin ei godi. Roedd ganddo naw colofn o goed derw praff wedi’u gwreiddio yn y riff ac wedi’u sicrhau â phlwm tawdd. Ar y brig cafodd caban i ddau ddyn ei osod, ac ysgol raffau i’w gyrraedd, ac roedd golau’r llusern wedi’i leoli uwchben y caban. Roedd rhodfa y tu allan yn caniatáu i’r lamp gael ei chynnal a’i chadw a chafodd storfa ar gyfer dŵr a thanwydd ei hagor yn y graig solet isod. Roedd y colofnau pren yn llai agored i nerth y gwynt na cholofnau carreg ond yn peri i’r strwythur siglo mewn gwyntoedd oedd bron yn ddi-dor.

Yn ystod gaeaf 1801 aeth dau ddyn lleol, Thomas Griffith a Thomas Howell, ar ddyletswydd yn y goleudy. Ychydig iawn o wybodaeth amdanyn nhw sy’n bodoli ond dywedir bod y ddau yn anghydweld â’i gilydd yn barod. Aeth pethau o ddrwg i waeth pan aeth Griffith yn sâl a marw ar ôl ychydig ddyddiau. Cyn hir, aeth byw yn agos at y corff yn annioddefol ond gwyddai Howell y byddai pawb yn ei amau pe bai’n gwaredu’r corff yn y môr. Ac yntau’n saer casgenni wrth ei waith, defnyddiodd ei sgiliau gwaith coed i lunio crât pren o estyll y pared a gwthio corff ei gydymaith iddo. Clymodd yr arch dros dro i’r rhodfa allanol. Ond, er bod y tywydd gwyllt yn gwaredu’r drewdod, dechreuodd y bocs dorri. Cyn hir, syrthiodd braich y dyn marw allan a dechreuodd chwifio i fyny ac i lawr yn y gwynt, gan daro’r ffenestr fel pe bai’n ceisio tynnu sylw.

Llwyddodd Thomas Howell i gadw’r lamp ynghyn rhwng y gwyll a’r wawr yn unol â thelerau ei ddyletswydd ond roedd y tywydd gwael hir yn golygu na chafodd ei ryddhau am wythnosau lawer. Gwelodd llongau a oedd yn pasio ffigur yn chwifio’n wyllt ond gan fod y lamp yn cynnau ac yn diffodd fel arfer doedd dim rheswm dros amau trychineb – na mentro creu trychineb chwaith drwy fynd at y creigiau yn y tonnau mawr. Erbyn iddo gael ei achub roedd Thomas Howell yn ddyn toredig. Mae rhai adroddiadau’n dweud mai prin fod modd ei adnabod a bod ei wallt wedi troi’n wyn.

Yn sgil y digwyddiad trasig hwn, cafodd yr isafswm ceidwaid ym mhob goleudy ei newid wedyn i dri ar bob sifft. Cydiodd y stori yn y dychymyg poblogaidd ac ysbrydoli straeon a drama gan gynnwys yn 2016 y ffilm Brydeinig The Lighthouse a gyfarwyddwyd gan Chris Crow: “Based on real events… the film tells a tale of death, madness and isolation, a desolate trip into the heart of human darkness”.

Yn 2019, cafodd y ffilm Americanaidd The Lighthouse, a gyfarwyddwyd gan Robert Eggers ac a oedd yn serennu Willem Dafoe a Robert Pattinson ganmoliaeth fawr, ac roedd hon hefyd yn ymwneud â’r berthynas lawn tyndra rhwng dau ddyn wedi’u dal mewn goleudy mewn tywydd garw. Er mai stori gan Edgar Allen Poe oedd yr ysbrydoliaeth wreiddiol, cydnabu Eggers y ddyled i hanes y Smalls ac esbonio ei fod wedi’i daro gan y ffaith mai Thomas oedd enw’r ddau ddyn: “I was like, “Okay, this is a movie about identity, and can devolve into some weird, obscure places,” meddai, mewn un cyfweliad.

Parhaodd y goleudy pren gwreiddiol, a wfftiwyd ar y pryd fel ‘a raft of timber rudely put together’, am bron 80 mlynedd. Cafodd ei ddisodli gan oleudy carreg ym 1861 ond nid cyn ail drasiedi ym 1831 pan hyrddiodd ton aruthrol lawr caban y ceidwaid i fyny yn erbyn y to, gan ladd un dyn ac anafu’r ddau arall. Heddiw, mae Goleudy’r Smalls yn cael ei weithredu’n awtomatig gan Trinity House. Hwn oedd y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei bweru gan ynni gwynt ac ynni’r haul. Drwy gymorth lensys mae bwlb 35 wat y goleudy’n gallu cael ei weld 34 km i ffwrdd. Mae’n cael ei wasanaethu gan hofrennydd, a dyma’r mwyaf anghysbell o hyd o’r holl oleudai o amgylch arfordir Prydain.

Tamaid hanesyddol
- Trasiedi Goleudy’r Smalls oedd yr ysbrydoliaeth rannol ar gyfer ffilm Brydeinig yn 2016 gyda Mark Lewis Jones a Michael Jibson a ffilm Americanaidd yn 2019 gyda Robert Pattinson a Willem Dafoe, ill dwy o dan yr enw The Lighthouse.

- Mae’n bosibl mynd ar daith mewn cwch i’r dyfroedd o gwmpas y Smalls.

- Mae hi hefyd yn bosibl mynd yn agos at oleudy arall ym Mhen-caer ger Abergwaun, sy’n sefyll mewn amgylchoedd arfordirol dramatig gyda chysgodfa arsylwi gerllaw i wylio adar môr, morloi a morfilod. Dyma’r man cychwyn hefyd ar gyfer rhai o’r teithiau cerdded arfordirol gorau yng Ngogledd Sir Benfro.

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Natasha de Chroustchoff
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
845
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment