Skip to main content

Bruce Moffett: 'Gwyddor Cymylau' (2022)

Disgrifiadau

Lede
Mae Dr Bruce Moffett yn wyddonydd annibynnol sy'n byw yn Abergwaun. Mae'n awdurdod blaenllaw ym maes bio-dyddodiad; astudio cymylau a'r ffordd y maent yn ffurfio glaw.

Stori
Cyhoeddwyd gwaith Dr Moffett yn eang mewn cyfnodolion gwyddonol, ac mae'n cynnal teithiau a sesiynau yn rheolaidd yn Abergwaun ar gyfer ymwelwyr o bob oed. Yma, mae'n amlinellu ei waith a chanfyddiadau gwaith ymchwil sy'n torri tir newydd, a gynhaliwyd yn Afon Gwaun yn Abergwaun.

Yn yr ysgol, mae'n siŵr bod y rhan fwyaf ohonom wedi cael ein haddysgu bod glaw yn ffurfio wrth i ddafnau cymylau ymgyfuno, nes byddant yn mynd yn ddigon mawr i gwympo i'r ddaear. Nid felly...

Er mwyn i law syrthio, rhaid bod rhew yn ffurfio yn gyntaf. Yna, caiff y dŵr amgylchynol ei gynnwys yn y crisialau rhew sy'n tyfu wrth iddynt ddenu mwy a mwy o ddŵr. Y rhew yw'r peth sy'n tyfu, nid y dafnau hylifol. Yn y diwedd, byddant yn rhy fawr i aros i fyny a byddant yn disgyn i'r ddaear. Yn gyffredinol, bydd y rhew yn toddi ar y ffordd i lawr, felly rydym yn cael llawer iawn o law, yn hytrach nag eira.

Mae'n ddigon syml hyd yn hyn! OND mae'r dŵr mewn cymylau yn bur, ar ôl iddo anweddu o foroedd ac afonydd. Mae'n anodd credu nad yw'n rhewi unrhyw le yn agos at 0, ond -36.5°C! Nid yw hi fyth mor oer â hynny mewn cymylau, felly sut caiff y glaw ei gynhyrchu?

Mae grŵp dethol iawn o ronynnau mân yn bodoli: gronynnau sy'n creu glaw, gronynnau sy'n creu rhew. Rhaid i'r rhain godi i'r cymylau er mwyn i'r rhew ffurfio pan fo'r tymheredd yn gynhesach na -10°C. Mae mwyafrif helaeth y gronynnau hyn yn rhai biolegol, o facteria, paill a ffyngau.

Roedd hi eisoes yn hysbys bod nifer y gronynnau creu rhew yn y moroedd yn isel iawn, ond nid oedd afonydd fyth wedi cael eu hymchwilio. Aeth Roger Strawbridge (pysgotwr lleol) a minnau allan i samplu Bae Abergwaun. Y diwrnod wedyn, aethom i samplu Afon Gwaun. Roedd gwaith a wnaethpwyd i ddadansoddi'r samplau morol wedi cadarnhau nifer isel y gronynnau creu glaw/rhew yn y moroedd. Fodd bynnag, roedd y samplau o'r afon (y cyntaf erioed i gael eu dadansoddi) yn syfrdanol, ac roeddent yn cynnwys sawl mil gwaith yn fwy na'r samplau morol.

Ar y dechrau, roedd y gymuned wyddonol yn llawn amheuon am y canlyniadau a sicrhawyd mewn afon fach yng Nghymru. Fodd bynnag, dangoswyd canlyniadau tebyg mewn afonydd ar draws y byd (e.e., afon Mississippi).

Mae darganfyddiad niferoedd enfawr o ronynnau creu glaw dŵr croyw yn Abergwaun wedi ysgogi ymdrechion rhyngwladol i bennu a yw gronynnau creu rhew o afonydd yn bwysicach ar gyfer glawiad na'r rhai o'r moroedd.

Mae gan y gwaith ymchwil hwn, a gychwynnwyd yn Sir Benfro yn Afon Gwaun, oblygiadau pwysig ar gyfer sawl agwedd ar y newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys rheolaeth afonydd, rhagfynegi glawiad, a rheoli glawiad.

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Bruce Moffett
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
559
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment