Gillian Brownson: 'Pwrs y Fôr-forwyn' (2021)
Disgrifiadau
Lede
Mae’r awdur a’r perfformiwr o Gaergybi, Gillian Brownson, yn cyfuno celf, barddoniaeth, chwilota ar lan y môr a chwedleua creadigol ar y glannau yn y darn hwn sy’n addas i blant rhwng 5 ac 8 oed.
Stori
“Ty’d, awn ni lawr i’r Mermaid a hel priciau tân ar y ffordd.”
Geiriau Nain ydy’r rhain. Roedd Nain yn byw ym Mrynsiencyn ar lan Afon Menai. Y ‘Mermaid’ oedd enw’r dafarn yn y porthladd fferi bach, lle byddai’r fferi lleol yn hwylio drosodd i Gaernarfon pan oedd fy Nhad yn fach. Dros amser serch hynny, ymhell ar ôl i’r dafarn gau am y tro olaf, dyna’r enw ar lafar ar y darn hyfryd hwn o draeth, lle byddai fy chwiorydd a minnau’n cerdded gyda’n hannwyl Nain. Felly, naill ai fel arwydd o gariad pobl Brynsiencyn at eu peint (ac yn y dafarn y gwelech chi Taid yn aml!), neu am fod yr enw’n un addas ar gyfer y dirgelion o dan donnau’r Afon, aros wnaeth yr enw: y ‘Mermaid’.
Dychmygwch beth roedd hynny’n olygu i ferch fach. Bob tro y byddwn i’n edrych allan dros y dŵr, fe welwn i rywbeth. Aderyn, morlew unig, broc môr, neu ‘hi’?
“Sbïa, Nain, ai hi sy yna?”
Fyddai Nain byth yn dweud ‘ie,’ ond fyddai hi byth yn dweud ‘nage’ chwaith.
Y ‘Fôr-forwyn’. Dim ond un. Yno bob amser. Yn fy meddwl ifanc i, roedd hi’n ein gwylio ni ar y lan wrth inni chwilio am y pethau y gallai hithau fod wedi’u gadael ar ôl. Roedd y traeth yn drysorfa darganfyddiadau, yr un fath â phob traeth bob amser. Dwi wedi mynd yn ôl droeon efo fy mhlant fy hun, ac rydyn ni wedi dod o hyd i benglogau adar a chrafangau crancod, gwydr môr a cheiniogau, ac wrth gwrs, rydym wedi dod o hyd i’w phwrs hi, droeon. Yn anffodus, rydyn ni hefyd wedi cael hyd i lawer o bethau eraill nad ydyn nhw’n perthyn yno, pethau dwi’n siŵr y byddai hi’n anhapus yn eu cylch.
Stori yw hon sydd wedi’i hysgrifennu iddi hi, y Fôr-forwyn, ac i Nain, a gadwodd y Fôrforwyn yn fyw imi.
Mae pethau rydych chi wedi’i canfod yn wych o ran ysbrydoli storïau, caneuon, dramâu, celf neu gyfuniad o’r holl bethau hyn. Cawson ni hyd i gwdyn wyau pysgod, a’i droi’n ‘Bwrs y Fôr-forwyn’. Dros yr wythnosau nesaf, mi fydda i’n defnyddio’r stori hon i ysbrydoli plant ysgol a theuluoedd i wneud yr un peth – mynd allan ar hyd y lan, canfod broc môr gwych a’i droi’n rhywbeth hudolus. Dwi’n edrych ymlaen at gasglu llawer o storïau môr cymunedol i archifau Porthladdoedd Ddoe a Heddiw wrth inni symud ymlaen ar y siwrnai hon.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment