Joshua Cox: 'Y Lusitania yn ymweld ag Abergwaun' (2021)
Disgrifiadau
Lede
Y llong deithio foethus oedd yn chwaer long i’r Mauretania yn rhoi hygrededd byd-eang i Abergwaun wrth gyrraedd y porthladd am y tro cyntaf ym 1909.
Stori
Ym 1909, dechreuodd y Lusitania alw ym mhorthladd Abergwaun wrth groesi Môr Iwerydd tua’r dwyrain rhwng Lerpwl ac Efrog Newydd. Nid yn unig roedd Abergwaun wedi dod â’r Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau yn nes at ei gilydd, ond yn ôl erthygl papur newydd ym 1909 yn The Tenby Observer, llwyddodd i ddangos hefyd fod y dref mewn safle gwych ac yn cynnig gwir botensial fel porthladd trawsatlantig.
Cafodd yr RMS Lusitania o eiddo cwmni Cunard ei hadeiladu’n bennaf fel llong deithio i gystadlu â llongau cwmnïau o’r Almaenig yn ystod cyfnod proffidiol o fasnach deithwyr dros Fôr Iwerydd. Ond, ar ôl cael ei chwblhau ym 1907, y Lusitania oedd y llong fwyaf a chyflymaf yn y byd. Ar 11 Hydref 1907, enillodd y Lusitania y ‘Rhuban Glas’ ar gyfer y croesiad cyflymaf ar draws yr Iwerydd, cyn cael ei churo gan ei chwaer long, y Mauretania, rai misoedd wedyn.
Cyrhaeddodd y Lusitania Abergwaun am y tro cyntaf brynhawn Llun, 6 Medi 1909. Cafodd cyfanswm hynod o 1,000 o fagiau post, 30 tunnell o fagiau a rhyw 200 o deithwyr eu codi oddi arni yn Abergwaun. Roedd y teithwyr yn cynnwys Syr Joseph Lawrence, aelod seneddol dros y Blaid Geidwadol rhwng 1901 a 1906, a ddisgrifiodd y fenter fel ‘a most enjoyable voyage’. Yn ôl The Cardiff Times, doedd neb i gystadlu ag effeithlonrwydd gweithwyr porthladd Abergwaun a chafodd popeth ei drosglwyddo o fewn hanner awr. Cafodd y porthladd ei ganmol yn fawr eto gan The Tenby Observer: ‘everything and everybody at Fishguard struck the high-pitched note of activity and precision. Nothing was left to chance. That was obvious even in the smallest detail. The disembarking operations were carried out like clockwork – without fuss or delay.’
Gellid dadlau mai’r tu mewn i’r Lusitania oedd y mwyaf moethus a chyfforddus yn y byd. Cafodd ei gynllunio gan James Millar o’r Alban, ac roedd y tu mewn i’r llong yn cynnig awyrgylch llachar, agored. Roedd y gorffeniad plastr gwyn yn wahanol i’r tu mewn tywyll, pren a oedd gan y Mauretania. Er bod y llongau o’r radd flaenaf, câi teithwyr o bob dosbarth eu croesawu, fel y gwelwyd yn Abergwaun pan ddaeth 160 o deithwyr dosbarth cyntaf, 54 o deithwyr ail ddosbarth a 10 o deithwyr trydydd dosbarth oddi arni.
Bum mlynedd ar ôl y glanio yn Abergwaun am y tro cyntaf, y Lusitania oedd y llong deithio drawsatlantig olaf erioed i alw yn y porthladd a hynny ar 14 Medi 1914. Creodd cystadleuaeth o borthladdoedd eraill a chostau cynyddol parhaus her i ddyfodol Abergwaun. Y gobaith oedd y gellid ailddechrau’r fasnach drawsatlantig drwy Abergwaun ar ôl y rhyfel, ond nid felly y bu.
Er gwaethaf rhybuddion, cychwynnodd y Lusitania ar ei mordaith olaf ar 1 Mai 1915. Yn y cyfnod hwn yn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yr Almaen wedi cyhoeddi bod gogledd Môr Iwerydd yn barth rhyfel ac wedi dweud wrth Americaniaid am beidio â hwylio ar y Lusitania ar ei draws. Ar 7 Mai, cafodd y llong ei tharo gan dorpedo 11 milltir oddi ar arfordir Iwerddon gan long danfor o’r Almaen. Dim ond 18 munud a gymerodd i’r Lusitania suddo, gan ladd 1,198 o deithwyr. Achosodd yr ymosodiad brotest fawr yn yr Unol Daleithiau a dechrau cyfres o adweithiau a allai fod wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i ymuno â’r rhyfel.
Tamaid hanesyddol
- Gallai’r Lusitania deithio ar gyflymder o hyd at 25 not (neu 29mya) am fod ganddi 25 o fwyleri Sgotaidd a phedwar propelor â thri llafn yr un.
- O blith lolfa, ystafell darllen ac ysgrifennu, ystafell ysmygu a chaffi ar feranda, yr ystafell fwyta dosbarth cyntaf oedd y crandiaf o ystafelloedd cyhoeddus y Lusitania.
- A hithau’n 787 troedfedd o hyd a 60 troedfedd o uchder, a chanddi 9 dec, y Lusitania oedd y llong fwyaf o dipyn yn y byd ar y pryd.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment