Derek Webb: 'Yr Hediad Cyntaf' (2020)
Disgrifiadau
Lede
Ym 1912, roedd y ras ymlaen i weld pwy fyddai'r cyntaf i lwyddo i groesi rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon mewn awyren.
Stori
Ym 1912 roedd 'awyrblanau’, fel roedden nhw’n cael eu galw bryd hynny, yn eu dyddiau cynnar. Rhywbeth i’r cefnog yn unig ymwneud ag ef oedd bod yn berchen ar awyren. Ond fe aethon nhw ati ag arddeliad. Un o arloeswyr cynnar yr awyrennau hyn oedd Denys Corbett Wilson. Eingl-Wyddel oedd hwn, ei fam yn dod o Kilkenny yn Iwerddon a’i dad yn fargyfreithiwr cyfoethog.
Ychydig flynyddoedd ar ôl i'r brodyr Wright hedfan am y tro cyntaf, ac ychydig yn unig ar ôl i Louis Bleriot hedfan dros y Sianel am y tro cyntaf, prynodd Corbett Wilson fonoplan Bleriot XI am y swm anrhydeddus o £480 – heb gynnwys yr injan. Cadwai ei beiriant newydd ym maes awyr Hendon yng ngogledd Llundain. Yno y cyfarfu â chyd-beilot, Damer Leslie Allen, a heriodd Corbett Wilson i ras ar draws y môr i Iwerddon. Er nad oedd yr un ohonyn nhw wedi hedfan lawer mwy na 30 milltir unrhyw bryd, penderfynodd y ddau yn uchelgeisiol y bydden nhw’n hedfan drosodd i Iwerddon, drwy Gaer a Chaergybi. Cychwynnodd y ddau ar eu taith ar brynhawn 17 Ebrill.
Dilynodd Allen y rheilffyrdd i'r gogledd, ond cafodd Corbett Wilson ei daro gan wyntoedd a oedd wedi codi. Roedd y tywydd yn waeth na'r disgwyl a chafodd cwmpawd Wilson ei ryddhau a'i golli. Heb gwmpawd, chwiliodd am unrhyw le y gallai lanio a sylwodd ar gae islaw, sef fferm ger Henffordd fel digwyddodd pethau. Wedi glanio heb drafferth, llwyddodd i gael lifft i westy a'r diwrnod wedyn aeth i chwilio am gwmpawd, petrol ac olew newydd i’w awyren. Ar y pryd, roedd yr injan mewn awyren yn defnyddio olew castor at iro. Mantais olew castor oedd nad oedd yn cymysgu â'r petrol. Yr anfantais oedd bod angen bron cymaint o olew ar yr injan â phetrol.
Yn achos Corbett Wilson, y broblem ychwanegol oedd bod yr olew castor a brynodd yn Henffordd yn olew o’r radd anghywir ac o fewn ychydig filltiroedd ar ôl codi a throi am y gorllewin, dechreuodd yr injan fethu. Unwaith eto bu’n rhaid iddo ddisgyn ond y tro hwn roedd ymhell uwchben y Mynydd Du. Yn wyrthiol, llwyddodd i ddod o hyd i'r unig ddarn o dir gwastad am filltiroedd o gwmpas: cae yng Ngholfa, Sir Faesyfed.
Mae'n rhaid ei fod yn credu bod y ras i Iwerddon wedi'i hen golli erbyn hyn. Ond pan gyrhaeddodd ei fecanig y diwrnod wedyn gyda'r radd gywir o olew a phetrol, clywodd y newyddion trasig am Damer Allen. Roedd wedi cyrraedd Caer fel y trefnwyd ac wedi cychwyn eto am Gaergybi lle cafodd ei weld yn hedfan allan i'r môr – sef y tro olaf iddo gael ei weld.
Mae'n rhaid bod hyn yn ysgytwad i Corbett Wilson; os nad oedd eisoes yn gwybod mor beryglus oedd y daith roedd yn ceisio’i chyflawni. Ond yn eofn ddigon, cychwynnodd eto ar yr hyn y mae ef yn ei ddisgrifio fel 'hediad hyfryd dros rostir a mynydd-dir tuag at y môr' gan gyrraedd Wdig tua 7.00am ar 21 Ebrill. Treuliodd y noson yng ngwesty gwych Rheilffordd y Great Western, Gwesty Bae Abergwaun.
Drannoeth, wrth iddo adael Wdig am 5.47am, roedd y tywydd yn berffaith. Ond 20 milltir o arfordir Iwerddon fe hedfanodd i mewn i law trwm a chymylau trwchus. Dechreuodd ei injan hefyd gam-danio a dechreuodd ei gwmpawd wamalu hefyd, felly aeth ymlaen yn ddall am rai milltiroedd nes iddo sylwi, drwy doriad yn y cymylau, ar gaeau islaw yn Crane, ger Enniscorthy, a phenderfynodd lanio.
Yn y glaw trwm, fe laniodd y Bleriot a daliodd i fynd nes cael ei atal yn y pen draw gan yr hyn y mae'n ei ddisgrifio fel 'clawdd cerrig Wexford o’r iawn ryw’. Ond roedd wedi cyrraedd a gallai hawlio iddo’i hun y clod am fod y person cyntaf i hedfan yn llwyddiannus rhwng y ddwy wlad.
Tamaid hanesyddol
- Cafodd yr hediad llwyddiannus cyntaf rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon ei gyflawni ar 22 Ebrill 1912 gan Denys Corbett Wilson, a gododd o Wdig yn Sir Benfro am 5.47am ac a laniodd yn Crane yn Sir Wexford ychydig dros 100 munud wedyn.
- Roedd Corbett Wilson yn rasio ei ffrind ac un o'i gyd-selogion hedfan, Damer Allen, y cafodd ei awyren ei weld yn hedfan tuag at y môr o Gaergybi ar 18 Ebrill 1912, ond na chafodd ei weld byth eto.
- Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, aeth Corbett Wilson ymlaen i wasanaethu yn y Corfflu Hedfan Brenhinol. Ym mis Mai 1915, cafodd ei ladd pan gafodd ei awyren ei saethu i lawr yn ystod taith ragchwilio.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment