Natasha de Chroustchoff, Jeremy Martineau: 'Trapiau pysgod hynafol ym Mae Abergwaun' (2020)
Disgrifiadau
Lede
Yn hanes Abergwaun pysgota o’r traeth oedd un ymhlith sawl ffordd o gynaeafu cyfoeth y
môr.
Stori
Credir mai o’r Hen Norseg ‘Fiskigarðr’ y daw enw Saesneg Abergwaun, a’i fod yn golygu ‘amgae i ddal pysgod’. Mae’r adfeilion a welir yma heddiw yn annhebygol iawn o ddyddio i gyfnod mor gynnar, ond gwyddys fod y dull hwn o greu trap siâp bachyn gyda waliau isel yn un hynafol iawn. Gwelir olion adeiladau tebyg mewn mannau eraill ar arfordir Cymru a’r Alban, ac yn wir ar draws y byd i gyd: yn y Môr deheuol, yn Ne America, De Affrica, Alaska a sawl rhan o Asia. Yn union fel y digwyddodd gyda choredau ar afonydd, mae’n debyg bod cymunedau arfordirol byd-eang wedi datblygu neu wedi dysgu creu’r un math o adeiladau er mwyn sicrhau daliadau digonol o bysgod i’w cadw trwy fisoedd caled y gaeaf. Parhaodd y modd hwn o ddefnyddio’r trapiau pysgod mewn rhannau o Ynysoedd Prydain ar ôl yr Oesoedd Canol, ac o bosibl mor ddiweddar â’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd heigiau mawr o benwaig yn brif gynhaliaeth i economi’r ddwy efeilltref Abergwaun a Gwdig. Dal pysgod o’r traeth oedd un ymhlith sawl ffordd o gasglu cyfoeth y môr.
Crëwyd y strwythurau hyn gyda’r deunydd oedd wrth law, ond byddai rhaid eu trwsio’n aml oherwydd difrod parhaol y môr. Mwy na thebyg, estynwyd y waliau o gerrig rhydd wedi eu pentyrru gyda chlwydi pren neu frigau — gwelwyd olion tebyg mewn trapiau cyffelyb o lefydd eraill. Byddai’r pysgod yn cael eu dal ar y trai (adeg y penllanw mawr fyddai orau) pan allai’r bobl yrru’r heigiau tuag at y clwydi gan waeddi a chynhyrfu’r dŵr. Ar y trai, wedyn, byddai llawer o bysgod yn mynd yn sownd a byddai modd sgwpio’r pysgod lan a’u dal mewn basgedi neu rwydi neu (fel hoffwn ni eu dychmygu!) sgertiau mawr menywod. Mi fyddai wedi creu tipyn o gyffro ymhlith aelodau iau’r dorf: ‘Dyma’r trai, awn ni lawr i’r trap!’ Mae’r trapiau heddiw yn gartrefi clud i bob math o fywyd môr: mae cregyn, corgimychiaid, a chrancod yn llechu yn y cerrig os cymerwch chi amser i chwilio. Maent hefyd yn llefydd da i weld adar rhydio yn chwilota am fwyd.
Mae’r trap gogledd-orllewinol yn estyn allan rhywfaint tu hwnt i’r lanfa (‘Fisherman’s Quay’) wrth ymyl Harbwr Gwdig. Gellir ei weld (pan fydd y môr allan) wrth gerdded ar hyd y ffordd tuag at derfynfa’r fferi. Ymddangosa ar siartiau’r môr o’r ddeunawfed ganrif, yn ogystal ag ar fap cyntaf yr Arolwg Ordnans ym 1889. Dinistriwyd rhan o’r trap ar ddechrau’r ugeinfed ganrif wrth adeiladu’r harbwr newydd. Bygythiwyd y gweddill gan gynllun arfaethedig i ddatblygu marina ar ddechrau’r ganrif hon, ond yn ffodus i’r trap ni ddigwyddodd hynny wedi’r cyfan.
Efallai nad yw’r pentyrrau o hen gerrig llithrig hyn yn atyniad amlwg i dwristiaid arferol heddiw – ond dylem gydnabod eu harwyddocâd. Maent y cysylltu treftadaeth forol Abergwaun a Gwdig gyda hanes cymunedau tebyg ar draws y byd. Datblygodd pobl yr arfordir yr un syniadau, a rhannu’r un gweithgareddau tuag at yr un nod cyffredin. Rhywbeth i’w ddathlu yw hynny; a dylid gwarchod yr hen drapiau hyn gyda’r un parch a gofal ag a roddwyd i olion eraill o’r gorffennol pell.
Tamaid hanesyddol
Yn Awstralia ceir trapiau pysgod sydd dros 6,000 blwydd oed, yn hŷn na’r pyramidau.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment