Manchán Magan: 'Carreg Gamu rhwng Cymru ac Iwerddon?' (2021)
Disgrifiadau
Lede
Mae Môr Iwerddon yn gwahanu Cymru ac Iwerddon, ond efallai nad felly y buodd hi bob amser. Ceir awgrymiadau gogleisiol bod yna gyfres o “gerrig camu” enfawr a allai fod wedi’i gwneud yn llawer haws croesi o Gymru i Wicklow ymhell yn ôl.
Stori
Mae edrych ar draws Môr Iwerddon tuag at Eryri dan eira ar fore llachar yn brofiad rhyfedd. O Wicklow, Wexford a hyd yn oed rhannau o Ddulyn mae’n ymddangos y gallech chi gerdded drosodd i lannau Cymru, ac mae yna awgrymiadau gogleisiol fod hynny’n bosibl efallai ar un adeg.
Yn sicr, roedd y ddau arfordir yn nes at ei gilydd yn y gorffennol, fel y gwelwch chi yn olion helaeth coetir sydd wedi’i foddi o dan Fae Ceredigion, yn union gyferbyn â Wicklow. Mae casgliad helaeth o foncyffion coed a gwreiddiau troellog sy’n dyddio i rhwng 4000 a 5000 o flynyddoedd yn ôl yn ymestyn allan ar draws y tywod fel copaon bach byr a morloi sgleiniog. Mae hyd yn oed rhodfa bren hynafol o ganghennau wedi’u tocio a physt wedi dod i’r golwg, a honno wedi’i hadeiladu oesoedd yn ôl wrth i’r môr ddechrau gorlifo’r tir.
Mae yna wir bosibilrwydd bod pont dir yn cysylltu’r ddau ranbarth tua deng mil o flynyddoedd yn ôl. Mae’n swnio’n bell yn ôl, ond, mewn gwirionedd, mae’n ddigon diweddar nes ei bod yn bosibl bod atgofion yn parhau yn hen straeon yr oesoedd canol, megis y Mabinogion. Mewn pennod yng Nghainc Branwen Ferch Llŷr, adroddir sut llwyddodd y cawr o Gymro, Bendigeidfran, i arwain ei fyddin drosodd o Gymru i ymosod ar Iwerddon. Disgrifir yr ymosodiad fel tirwedd gyfan yn symud tuag at Iwerddon. Cafodd penaethiaid Wicklow rybudd gan ddynion yn gofalu am eu moch, “yr ydym wedi gweld coed ar y weilgi yn y lle na welsom erioed un pren… a’r coed a’r mynydd a phob peth oll o’r rhai hynny’n symud.” Bendigeidfran arweiniodd y cyrch, gan gerdded drwy’r dŵr o flaen ei lynges.
Mae llawer o or-ddweud yn y stori, ond oes rhyw ronyn o wirionedd ynddi tybed? Wrth edrych ar draws Môr Iwerddon ar ddiwrnod clir y cwestiwn sy’n codi yw a allai cawr fod wedi cerdded y sianel ymhell yn ôl, pan oedd rhai o’r llenni iâ yn dal yno a lefelau’r dŵr yn llawer is? Yn gyntaf, rhaid inni gydnabod nad stori ffug yw cewri. Mae ymchwil enetig wedi canfod mwtaniad genynnau ymhlith pobl Iwerddon sy’n achosi adenoma pitẅidol, sef anhwylder a all arwain at gawraeth mewn rhai pobl. Yn Amgueddfa Hunter yn Llundain ceir olion sgerbwd dyn o Iwerddon, Charles Byrne, a oedd yn 7 troedfedd 7 modfedd o daldra. Gellir olrhain ei anhwylder ef yn ôl drwy genedlaethau lawer ac mae’n ymddangos bod yr anhwylder wedi codi gyntaf ymhlith y Gwyddelod 1500 o flynyddoedd yn ôl, ond mae genetegwyr yn nodi’r ffaith y gallai fod wedi dechrau mor bell â 3,700 o flynyddoedd yn ôl. Felly, roedd yna gyfran fach o bobl dal iawn yn Iwerddon erioed.
At hynny, roedd y darn byr o 80km o fôr rhwng Cymru ac Iwerddon yn debygol o fod yn fasach ar adegau nag ydyw heddiw. Mae’r Mabinogion yn esbonio gallu Bendigeidfran i groesi Môr Iwerddon drwy ddweud, “nid oedd y weilgi yn fawr y pryd hwnnw; gan gerdded yr aeth ef. Nid oedd ond dwy afon, Lli ac Archan y’i gelwid. Ac wedi hynny y cynyddodd y weilgi pan oresgynnodd y weilgi’r teyrnasoedd”.
Mae’r disgrifiad hwn yn cyd-fynd â’r honiad gan rai daearegwyr bod pont dir dros dro yn rhedeg rhwng Cymru ac Iwerddon 11,000 o flynyddoedd yn ôl. Credai Robin Wingfield o Gymdeithas Ddaearegol Prydain fod codiad yng nghramen y Ddaear wedi dilyn enciliad araf y rhew tua’r gogledd a hynny wrth i’r gramen fownsio’n ôl yn sgil codi pwysau’r cap iâ. Byddai’r gefnen hon o dir wedi bodoli am gannoedd, os nad miloedd, o flynyddoedd. Roedd y naturiaethwr nodedig a’r Athro Astudiaethau Oes yr Iâ yng Ngholeg y Drindod Dulyn, Frank Mitchell, yn bendant bod hyn yn wir a disgrifiai “a very remarkable type of automatic trackway across the Irish Sea.”
Mae ymchwilwyr arfordirol a geoffisegol eraill yn fwy amheus, gan gredu na wnaeth lefel y môr erioed ostwng yn ddigon pell yn y sianel i ganiatáu i’r tir ddod i’r amlwg yn gyfan gwbl. Maent yn tynnu sylw at y ffaith bod yna gafn mawr yn llawr Môr Iwerddon, 100m o ddyfnder, yn rhedeg i fyny’r canol. Ac eto, mae’r cafn canolog dwfn hwn yn cael ei bontio gan gefnen uchel sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin, yn fras rhwng Wicklow a Bae Ceredigion, lle roedd cartref Bendigeidfran. Nid yw’n ddigon uchel i fod wedi dod i’r golwg yn y cyfnod ôl-rewlifol, ond mae arbenigwyr yn dyfalu ei bod yn bosibl bod yna gyfres o ynysoedd corsiog dros dro a’r rheiny wedi caniatáu i’r “elc” enfawr o Iwerddon wneud y croesiad, gan ddal ei gyrn anferth i fyny wrth nofio. Os oedd Bendigeidfran mor dal â Charles Byrne, efallai ei fod yntau hefyd wedi llwyddo i groesi, yn enwedig os oedd yn gwybod ble roedd esgeiriau creigiau’r marian a adawyd ar ôl gan y rhewlifau ac yn gallu neidio o’r naill i’r llall.
I fyd y celfyddydau ac nid i’r gwyddorau y mae dyfalu o’r fath yn perthyn, ond mae’n helpu i egluro yn ein dychymyg, o leiaf, mor gryf yw’r cysylltiadau ieithyddol, masnachol a diwylliannol rhwng Cymru ac Iwerddon.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment