Amgueddfa Arforol Caergybi: 'Sant Columba, Sant a Llong' (2021)
Disgrifiadau
Lede
Mae'r stori hon yn un mewn cyfres barhaus i arddangos rhai o'r gwrthrychau arbennig sydd gennym yng nghasgliad yr amgueddfa. Un o'r gwrthrychau mwyaf diddorol ac yn sicr un o’r mwyaf sy'n cael ei arddangos yn Amgueddfa Forwrol Caergybi yw murlun Franta Belsky a fu unwaith yn addurno Lolfa Flaen llong o Gaergybi, MV St. Columba.
Stori
Un o'r gwrthrychau mwyaf diddorol ac yn sicr un o’r mwyaf sy'n cael ei arddangos yn yr Amgueddfa yw murlun Franta Belsky a fu unwaith yn addurno Lolfa Flaen llong o Gaergybi MV St. Columba.
Cafodd y llong ei henwi ar ôl mynach Gwyddelig o’r 6ed Ganrif a sefydlodd y fynachlog ar ynys Iona yn yr Alban, a oedd y pryd hwnnw yn rhan o deyrnas Ulster yn Iwerddon. Credir y gallai’r gwaith i greu 'Llyfr Kells', sy’n gymaint o drysor, fod wedi’i ddechrau gan fynachod Iona.
Mae'r murlun yn portreadu episodau ym mywyd Sant Columba. Mae'n darlunio’i daith i Iona a'r fynachlog a sefydlodd ar sylfaen o gerrig. Gwnaeth Sant Columba lawer i ledaenu Cristnogaeth i'r rhan hon o'r Alban. Mae hefyd yn dangos coroni Brenin yr Alban, Aiden, a fu o gymorth i ddod â heddwch yn y brwydro rhwng y claniau. Dangosir hefyd ffigurau yn gweddïo, un o longau’r Llychlynwyr a cholomennod gwyn heddwch.
Cafodd y fferi ceir MV St. Columba ei adeiladu yn Nenmarc a dechreuodd weithio ar y llwybr rhwng Caergybi a Dún Laoghaire ym mis Mai 1977. Roedd yn pwyso 7,836 o dunelli a hi oedd llong fwyaf Sealink ar Fôr Iwerddon. Gallai gario hyd at 2,400 o deithwyr a 335 o geir neu 36 o HGVs, neu gymysgedd o'r ddau. Roedd yn llong boblogaidd ymysg y teithwyr a’r criw fel ei gilydd.
Ym 1997 gadawodd Fôr Iwerddon a hwylio i wres y Môr Canoldir fel y fferi Groeg Express Aphrodite. Nid yw'n hysbys pryd y cafodd y murlun ei dynnu o'r llong ond cafodd ei achub gan aelodau o'r Amgueddfa, ac erbyn hyn mae ganddo le amlwg yn yr Amgueddfa i'n hatgoffa am y cysylltiadau Celtaidd cryf rhwng Iwerddon a Chymru.
Roedd Franta Belsky yn gerflunydd Tsiecaidd a oedd yn adnabyddus am waith haniaethol ar raddfa fawr mewn celfyddyd gyhoeddus yn ogystal â cherfluniau a phenddelwau mwy eiconograffig o ffigurau amlwg yr 20fed ganrif fel Winston Churchill ac aelodau o Deulu Brenhinol Prydain.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment