Natasha de Chroustchoff: 'Bwyd i'w ganfod Lawr ar Lan y Môr' (2022)
Disgrifiadau
Lede
Mae lafwr, neu wymon wedi'i sychu, yn ddanteithfwyd lleol ac yn gynhwysyn a ddefnyddir mewn coginio traddodiadol ar hyd arfordir Sir Benfro. Mae bara lawr wedi'i wneud o wymon yn saig unigryw a phoblogaidd.
Stori
Os ydych chi fyth wedi sylwi ar ddalennau sy'n edrych fel ffilm plastig brown lled dryloyw sy'n gorchuddio'r creigiau a'r tywod lle y mae'r tonnau yn torri, rydych chi wedi gweld y gwymon a elwir lafwr yng Nghymru (neu sloke yn Iwerddon).
Os ydych chi fyth wedi mwynhau swshi, byddwch wedi bwyta lafwr hefyd, gan ei fod yn cyflawni rôl arwyddocaol mewn bwyd Japaneaidd: ei enw yw nori, ac fe'i ddefnyddir i lapio parseli bychain o reis.
Mae fforio ar lan y môr yn rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers canrifoedd, ond dros y blynyddoedd diweddaf, mae cogyddion creadigol a bwytai arloesol wedi ei boblogeiddio. Er bod bwyta gwymon yn rhywbeth sy'n perthyn i'r oes o'r blaen mewn mannau eraill, fe'i gwelwyd yn goroesi yng Nghymru, lle y mae 'bara lawr' wedi bod yn ychwanegiad i'w goleddu i frecwast wedi'i ffrio ers cenedlaethau. Byddai casglwyr lafwr, menywod yn bennaf, yn casglu gwymon Porphyra oddi ar y traethau lle'r oedd yn tyfu, cyn ei rinsio'n drylwyr i waredu'r tywod a'i ferwi am oriau mewn tybiau mawr. Gwerthwyd yr hylif trwchus du mewn marchnadoedd lleol ac mewn siopai cigyddion – lle y gallwch ei brynu o hyd heddiw; fe'i gwerthir mewn tuniau, bagiau bychain a jariau hefyd.
Er mwyn gwneud bara lawr traddodiadol, ychwanegwch flawd ceirch a phupur (dim halen!) i greu patis bras a'u ffrio yn olew poeth y bacwn a'u brownio'n ysgafn. Mae'r blas yn gynnil a heb fod yn bysgodlyd fel y mae rhai yn tybio y bydd. Galwyd lafwr yn gafiâr y Cymry; enghraifft o or-ddweud efallai, ond mae'n parhau i ddwyn atgofion melys i'r rhai sy'n cofio ei gael yn ystod eu plentyndod.
Mae lle i lafwr yn niet y rhai nad ydynt yn bwyta cig hefyd: gellir ei ddefnyddio mewn cawl a sawsiau fel cyflasyn neu fel elfen debyg i bupur a halen. Mae hyd yn oed cael ei gynnwys mewn caws a bara ceirch, sydd ar gael mewn nifer o siopau.
Yn yr unfed ganrif ar hugain, gwelwyd diddordeb o'r newydd mewn gwymon fel adnodd cynaliadwy, gyda'r posibilrwydd o'i ddefnyddio i ddal carbon hefyd. Mae arbrofion tyfu a chynaeafu gwymon wedi cychwyn ar hyd arfordir Sir Benfro ger Tyddewi. Mae diwrnodau allan a chyrsiau fforio lleol yn cynnig cyfle i chi gasglu eich cyflenwad eich hun.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment