Derek Webb: 'Mor Agos, ac eto Mor Bell' (2020)
Disgrifiadau
Lede
Ddwy flynedd cyn i’r awyren gyntaf groesi’n swyddogol o Brydain i Iwerddon daeth awyrennwr dewr arall o fewn ychydig gannoedd o lathenni i hawlio'r record.
Stori
Ar 22 Ebrill 1912 y cafwyd y croesiad swyddogol cyntaf mewn awyren o Brydain i Iwerddon a hynny mewn monoplan Bleriot gan Denys Corbett Wilson, a hedfanodd o Abergwaun i Enniscorthy yn Wexford. Ond ddwy flynedd yn gynt daeth ymgais arall o fewn trwch blewyn i gwblhau’r croesiad. Actor eofn o awyrennwr oedd y peilot y tro hwnnw, dyn o'r enw Robert Loraine. Loraine oedd yr actor cyntaf a ymddangosodd yn 'Man and Superman' gan George Bernard Shaw a agorodd ar Broadway yn 1905. Bu’r ddrama mor llwyddiannus fel ei bod yn cymryd $12,000 yr wythnos ac yn torri pob record. Gwnaeth Loraine gymaint o arian nes gwneud yr hyn yr hoffai unrhyw ddyn cefnog ei wneud: prynodd awyren. Dyna’i angerdd, ac maen nhw'n dweud mai ef a greodd y term 'joystick’, er nad oedd yn cael ei ystyried yn beilot da iawn.
Serch hynny, bum mlynedd wedyn, penderfynodd hedfan ar draws Môr Iwerddon ac addasodd ei awyren ddwbl Farman yn unswydd ar gyfer y daith, gan gynnwys tanc petrol pedair awr a chwmpawd arbennig. Ymadawodd â Chaergybi ar 11 Medi ac aeth popeth yn dda nes i'w injan fethu tua 4000 troedfedd i fyny. Dechreuodd yr awyren blymio a rhyw 20 troedfedd o'r môr dyma’r injan yn pesychu ac ailddechrau gweithio.
Digwyddodd yr un peth bum gwaith cyn iddo gyrraedd o fewn golwg o arfordir Iwerddon ac, wrth i Drwyn Howth ymddangos o'i flaen, dechreuodd yr awyren blymio eto, ond y tro hwn wnaeth yr injan ddim ailgychwyn a phlymiodd i'r môr ger goleudy Bailey – ychydig gannoedd o lathenni yn unig yn brin o'i nod.
Trodd y Farman ar ei gefn a llwyddodd Loraine i gyrraedd craig, gan wrthod cymorth ceidwad y goleudy am ei fod am gyrraedd y lan yn Iwerddon heb gymorth. Gwelwyd y ddamwain gan y stemar 'Aden' o Ddulyn, a ddaeth o hyd i awyren Loraine yn rhannol o dan y dŵr. Cododd y llong yr awyren i’r dec a gwelwyd bod y difrod iddi yn gymharol fach. Cafodd ei hanfon i Lundain wedyn i gael ei thrwsio.
Roedd angen i Loraine yntau fod yn Llundain oherwydd pan wnaeth ei ymgais i groesi Môr Iwerddon, roedd yn ymarfer ar gyfer drama a oedd i fod i agor yn West End Llundain. Agorodd gwta ddyddiau ar ôl ei ymgais aflwyddiannus i groesi Môr Iwerddon – ac, yn rhyfedd iawn, teitl y ddrama oedd ‘The Man from the Sea’!
Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, ymunodd Loraine â'r egin Gorfflu Awyr Brenhinol a gwasanaethu fel sylwedydd uwchben llinellau’r gelyn. Am gyfnod, ei beilot oedd Denys Corbett Wilson, y dyn sy'n cael y clod swyddogol fel y dyn cyntaf i hedfan o Brydain i Iwerddon, ddwy flynedd ar ôl ymgais Bob Loraine. Aeth Loraine ymlaen wedyn i fod yn actor ffilm cymharol enwog a ymddangosodd mewn sawl ffilm yn Hollywood.
Tamaid hanesyddol
- Ym 1910, gwnaeth Robert Loraine ymdrech aflwyddiannus i fod y person cyntaf i hedfan o Brydain i Iwerddon. Cychwynnodd o Gaergybi ar 11 Medi.
- Methodd injan awyren ddwbl Farman Loraine sawl tro dros Fôr Iwerddon. Pallodd am y tro olaf ychydig yn brin o Drwyn Howth, a chafodd Loraine ei fwrw i’r môr, ychydig cyn cyrraedd ei nod.
- Roedd Robert Loraine yn actor ar y llwyfan a’r sgrin, ac yn ffrind i George Bernard Shaw. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, bu'n gwasanaethu fel sylwedydd gyda'r Corfflu Awyr Brenhinol. Bu farw ym 1935.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment