Skip to main content

Natasha de Chroustchoff: 'Morwyr Ar Goll ac eraill a ddaeth i'r Fei' (2021)

Disgrifiadau

Lede
Roedd llongddrylliadau yn un o beryglon y gwaith yn ystod cyfnod y llongau hwylio. Gallai stormydd a gwyntoedd cryfion drechu'r criw mwyaf galluog ac roedd arfordiroedd yn frith o beryglon. Mae mynwentydd pentrefi ar ddwy ochr Môr Iwerddon yn coffáu eneidiau coll – y rhai na ddychwelodd fyth a'r rhai a olchodd i'r lan ar ôl iddynt foddi, heb enw.

Stori
Ym mynwent eglwys fechan Granston, a leolir ychydig yn ôl o fae Abermawr a'i gymydog llai o faint, Aber-bach, mae dwy garreg fedd yn coffáu dioddefwyr dienw y tonnau. Mae un yn coffáu marwolaethau Capten Charles Bowlby a'i griw o 28 ar fwrdd y llong Americanaidd â rigin llawn, Charles Holmes, a wthiwyd i'r lan yn ystod Storm Siarter Frenhinol 25 Hydref 1859. Dymchwelodd ym Mae Aber-bach. Boddwyd y criw i gyd a golchodd naw o'u cyrff ar yr arfordir gerllaw. Ni ddarganfuwyd corff y capten na gweddill y criw, ond o blith y cyrff a olchodd i'r lan, claddwyd rhai ym mynwent Granston a rhai ym mynwent Llanwnda gerllaw. Cynhaliwyd arwerthiant lleol o'r cargo gwasgaredig (offer haearn, blancedi, crochenwaith a phadelli ffrïo).

Mewn man arall yn yr un fynwent, mae carreg fedd yn coffáu gorffwysle dyn dienw a foddodd ac a olchodd ar y lan yn Abermawr ar 19 Ionawr 1916. Mae'r arysgrif ar y garreg sy'n nodi: AND HE SHORTENED MY DAYS IN THE SEA, ynghyd ag angor, yn cofnodi ffawd y dyn, ond ni ŵyr pwy ydoedd. Gallai fod wedi bod yn bod yn un o feirwon y Rhyfel Mawr ar y môr – pwy a ŵyr?

O blith y morwyr na ddychwelodd gartref, mae hanes rhai ohonynt yn hysbys: cofnodir eu henwau a'r lleoliadau lle y buont farw ar feddau a chofebau teuluol: y rhai a foddodd, a fu mewn damwain neu a fu farw o afiechyd mewn rhyw borthladd pellennig neu sy'n gorffwys mewn bedd dan y don ymhell i ffwrdd. Ond o bryd i'w gilydd, gwelwyd ambell ganlyniad hapusach. Daeth y ddwy stori nesaf i'r amlwg ar ôl ymchwilio mewn hen bapurau newydd lleol.

Rhywbryd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, aeth bachgen yn ei arddegau o'r enw Gwilym Rowe o fferm ger Abergwaun i weithio ar y môr fel gwas caban. Aeth ei long i drafferthion yn Sianel Mozambique, a oedd yn fan peryglus i longau hwylio. Ar ôl clywed dim, tybiodd ei deulu ei fod wedi marw a buont yn galaru amdano. Flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd ŵyr yr hynafiaethydd o Abergwaun, Richard Fenton, wedi allfudo i Dde Affrica – gwlad llawn cyfleoedd ar y pryd. Fel chwilotwr diemwntau, ffermwr a heliwr anifeiliaid mawr, arferai Reginald Fenton deithio i'r mewndir yn aml. Un diwrnod, pan oedd yn masnachu gyda phobl llwythol Matabeleland (Simbabwe bellach), fe'i cyfarchwyd gan hen ŵr yr oedd ei wallt wedi britho, a ddywedodd 'Did you say your name was Fenton? I used to know a Lady Fenton in Fishguard, she gave me pennies when I read to her'. Ni allai Reginald gredu'r peth – mae'n rhaid mai'r fenyw dan sylw oedd ei fam-gu. Esboniodd y gŵr oedrannus ei fod wedi bod mewn llongddrylliad a'i fod wedi cael ei achub gan drigolion leol, a'i fod wedi aros gyda nhw. Erbyn hynny, roedd yn hynafgwr llwythol. Ei enw oedd Gwilym Rowe. Ni ddychwelodd gartref, ond pan glywodd ei chwaer oedrannus ei fod wedi goroesi, wylodd gan lawenydd.

Roedd Charles Gronow o Abergwaun yn forwr a ymunodd â chriw masnachlong Brydeinig Nisero ym 1883, a fyddai'n teithio i India'r Dwyrain. Wrth iddi ddychwelyd a phan oedd yn hwylio am Marseilles gyda llwyth o siwgr, daeth storm a hyrddiwyd y llong ar arfordir Swmatra pan oedd Charles wrth y llyw. Goroesodd y criw ond dinistriwyd y llong. Ac aeth pethau o ddrwg i waeth: fe'u carcharwyd gan ynyswyr a benderfynodd eu gorymdeithio i'r mewndir ac yna, eu caethiwo am sawl mis, gan eu symud o le i le yn aml mewn gwres llethol. Bu farw sawl aelod o'r criw o newyn, lludded neu afiechyd. Daeth diwedd ar y dioddefaint o'r diwedd ar ôl sawl mis, pan anfonwyd criw achub a thalwyd pridwerth sylweddol i'r Rajah, a oedd wedi bod yn eu defnyddio fel gwystlon bargeinio. Dychwelodd Gronow i Abergwaun ym mis Tachwedd 1884, lle y treuliodd gweddill ei fywyd yn dal cimychiaid, a bu farw ar ôl cyrraedd oedran teg.

Tamaid hanesyddol
- Mae Abermawr ac Aber-bach yn draethau graeanog, mewn man ychydig yn anghysbell ac maent yn ffotogenig iawn. Gellir cyrraedd y ddau trwy ddilyn llwybrau troed o'r ffordd. Arferai Abermawr fod yn ddyffryn rhewlifol a gellir gweld olion 'coedwig orlifedig' ar y blaendraeth pan fo'r llanw ar ei isaf.

- Gerllaw, ceir Plas Tregwynt, lle y darganfuwyd un o'r casgliadau gorau o ddarnau arian a ddarganfuwyd erioed yng Nghymru ym 1996 gan rywun yn defnyddio datgelydd metel.

- Mae Granston yn gartref i Melin Tregwynt, melin wlân sy'n gweithio o hyd gydag olwyn ddŵr draddodiadol a yrrir gan ddŵr, siop a chaffi, ac mae'n lle gwych i ymweld ag ef.

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Natasha de Chroustchoff
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
399
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment