Skip to main content

Rita Singer: 'Ymladd Ceiliogod a Gornesta' (2022)

Disgrifiadau

Lede
Ar 9 Mehefin 1783, treuliodd Carl Gottlob Küttner ddiwrnod yng Nghaergybi yn crwydro ar hyd y dref wrth iddo aros am y llong nesaf i Ddulyn.

Ym 1783, teithiodd Carl Gottlob Küttner (1755-1805) trwy Gaergybi i Ddulyn i gychwyn ar ei swydd newydd fel athro tŷ a chydymaith teithio ar aelwyd George Beresford (1735–1800), ail Iarll Tyrone. Roedd Küttner yn hanu o Etholaeth Saxony, ac yn gweithio fel tiwtor yn Y Swistir pan ddaliodd sylw yr Iarll Eingl-Wyddelig. Penderfynodd Tyrone gyflogi’r Almaenwr ifanc ac estynnodd wahoddiad iddo ddod i blasty y teulu yn Iwerddon. Fel teithiwr brwd gyda chryn ddiddordeb mewn gwahanol ddiwylliannau, cadwodd Küttner gofnod manwl o’i daith.

Ar ôl croesi’r Sianel yn Calais, ymwelodd Küttner â sawl man yn Lloegr cyn troi ei olygon am Gymru. Nododd bod ‘natur gyfan Ynys Môn yn llawn tristwch’ oherwydd llystyfiant prin yr ynys, ond roedd Caergybi wedi apelio yn fwy iddo ac roedd wedi mwynhau’r olygfa ar draws yr harbwr o ffenestr ei westy yn arbennig. Wrth aros am y long bost nesaf i Ddulyn, darganfu Küttner ymladd ceiliogod a rôl anwirfoddol y dref ym maes gornesta Gwyddelig.

Yn wahanol i drefi eraill yng Nghymru megis Conwy, Dinbych neu’r Trallwng, nid oedd gan Gaergybi bit ceiliogod adeiledig. Yn hytrach, cynhaliwyd yr ymladdfeydd ar ddarn o dir glaswelltog ger gwesty Küttner. Yn ei gofnod o’i daith, mae’n rhoi disgrifiad manwl ac mewn ffieidd-dod o’r unig adeg pan fu’n dyst i olygfa o ddau aderyn yn ymladd yn erbyn ei gilydd nes bod un ohonynt yn lladd y llall. ‘O’r diwedd,’ nododd, ‘crymodd yr anifeiliaid eu pennau i’r llawr, ond hyd yn oed wedi hynny, fe’u gwthiwyd yn erbyn ei gilydd, a hyd yn oed wedi hynny, byddent yn ymosod ar ei gilydd, yn hanner marw ac yn simsanu nes bod un ohonynt yn gorwedd yn llonydd ar eu hyd ar y llawr.’

Yn ogystal, ymwelodd Küttner â lleoliad a oedd weithiau yn lleoliad gornestau ar gyfer gwrthwynebwyr Gwyddelig. Ar yr adeg honno, er nad oedd gornesta yn cael ei wahardd gan y gyfraith, roedd gornesta yn cael ei thrin fel trosedd ddifrifol yn Iwerddon. Felly, gwelwyd y llongau post rheolaidd a arferai groesi Môr Iwerddon yn gwneud Caergybi y man galw cyntaf a hawsaf i fonheddwyr Gwyddelig a oedd yn dymuno rhoi iawn i rhywun. Gan ystyried y normau cymdeithasol a’r pwysau gartref yn y gwledydd Almaenig, ond hefyd ym Mhrydain ac yn Iwerddon, mae’n ysgrifennu, ‘Nid yw dyn yn gwybod daioni uwch na bywyd ac mae’n rhoi’r pwys mwyaf arno – yna mae’n croesi’r môr, gan wynebu taith anodd gyda’r sicrwydd, neu o leiaf y tebygolrwydd, y bydd yn dinistrio ei fywyd ei hun neu fywyd rhywun arall.’ Hyd yn oed heddiw, gellir gweld olion y gornestau Gwyddelig hyn yng Nghaergybi. Saethwyd Uwchgapten William Houghton yn farw mewn gornest gyda Chapten Wolsely ym 1796. Fe’i claddwyd ym mynwent eglwys St Cybi lle y gellir ymweld â’i garreg fedd hyd heddiw.

Y bore wedyn, llwyddodd Küttner i gael lle ar y llong bost nesaf i Ddulyn, lle y glaniodd dri deg chwech awr yr ddiweddarach yn dilyn taith stormus a garw. Arhosodd yn Iwerddon am y ddwy flynedd nesaf, cyn mynd ar daith unwaith eto fel cydymaith teithio ar gyfer y plentyn dan ei ofal trwy’r Eidal, yr Iseldiroedd a Ffrainc. Ym 1793, dychwelodd Küttner i Leipzig, lle y cyhoeddodd sawl llyfr am ei deithiau helaeth ar draws Ewrop.

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Rita Singer
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
373
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment