Skip to main content

Linda Asman: 'Nest ferch Rhys – Tywysoges Deheubarth' (2023)

Disgrifiadau

Lede
Mae Linda Asman yn adrodd stori Tywysoges Nest, yr ‘Helen o Gymru’ Ganoloesol, a oedd yn enwog am ei harddwch chwedlonol, ond a arweiniodd yn y pen draw at ei chipio a rhyfel cartref, fel Helen o Droea.

Ychydig iawn o fenywod yr ysgrifennir amdanynt yn ystod anterth y cyfnod Canoloesol; yn aml, dim ond cyfeiriad a wneir at rywun sy’n wraig neu’n fam rhywun. Ond nid felly gyda Nest. Ganwyd Tywysoges Nest tua 1085 ac roedd yn ferch Rhys ap Tewdwr, brenin y Deheubarth, hen deyrnas Gymreig de-orllewin Cymru. Yn ystod brwydr y tu allan i Aberhonddu yn 1093, lladdwyd Rhys a goresgynnwyd de Cymru gan lu Normanaidd. Cludwyd ei brawd, Gruffydd ap Rhys i le diogel yn Iwerddon, ond cymrwyd Nest fel gwystl i lys Seisnig William Rufus, a hithau ond yn 13 oed.

Tynnwyd sylw brawd y Brenin, Tywysog Henry Beauclerc (a fyddai’n Henry I yn ddiweddarach) at y gwystl ifanc brydferth, a chafodd berthynas â hi, a arweiniodd at o leiaf un plentyn – Henry Fitzhenry. Nid perthynas fer fu hon, a daeth Nest yn feistres agored Henry. Byddai hyn yn newid pan ddaeth Henry yn frenin a phriodi Matilda o’r Alban. Nid oedd modd i Nest aros yn y llys mwyach ac fe’i rhoddwyd yn wraig i Gastellydd o Benfro. Fodd bynnag, mae’n ymddangos y bu hon yn briodas hapus, gan arwain at dri mab a merch, sef Angharad (mam Gerallt Gymro). Caeriw oedd gwaddol Nest ac adeiladodd Gerald eu castell cyntaf yno.

Adroddir y stori ynghylch Owain ap Cadwgan yn cipio Nest yn 1106 ym Mrut Y Tywysogion. Roedd Gerald wedi adeiladu ail gastell yng Nghenarth Fychan (Cilgerran). Ar ôl clywed bod Nest yn y castell, aeth Owain i ymweld â hi fel ei berthynas, yng nghwmni gosgordd fechan. Croesawyd Owain gan Gerald ond gadawodd y castell yn wyllt yn ei ddyhead am ei gyfnither. Yn glaf gan serch, dychwelodd Owain gyda llu bach o ddynion, gan dorri i mewn i’r castell a rhoi’r ystafell lle’r oedd Nest a’i gŵr yn gorwedd dan warchae. Penderfynodd Nest gymryd yr awenau, gan berswadio Gerald i ddianc trwy wardrob a darbwyllo’r ymwthwyr nad oedd yno. Yna, fe’i cipiwyd gan Owain, a’i phump o blant, llosgodd y castell a’u cludo i Bowys.

Mae pobl yn dyfalu a oedd Nest wedi croesawu sylw Owain neu beidio. Fodd bynnag, mae’r Brut yn ein hysbysu ei bod hi wedi addo aros gydag Owain ar yr amod y byddai’n rhyddhau’r plant yn ôl at eu tad. Gan ei bod yn ei charu, cytunodd Owain. Roedd cipio Nest wedi digio Brenin Henry a’r arglwyddi Normanaidd. Rhoddwyd cil-dwrn i elynion Cymreig Owain i ymosod arno, ond llwyddodd i ddianc i ddiogelwch Iwerddon. Ceir gwahanol fersiynau o’r stori ynghylch a oedd Nest wedi teithio yno gydag ef neu beidio, ond fe’i dychwelwyd at Gerald yn y pen draw.

Yn 1112, dychwelodd brawd Nest, sef Gruffydd, gan hawlio teyrnas ei dad a chan arwain gwrthryfel Cymreig yn erbyn y Normaniaid. Fodd bynnag, gan bod Gerald ar delerau da gyda Gruffydd, arbedwyd Penfro rhag dioddef y cyrchoedd Cymreig y bu’n rhaid i Aberteifi, Caerfyrddin, Bro Gŵyr a Chemaes eu dioddef. Yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, bu modd i Gerald ddial ar Owain o’r diwedd, a oedd erbyn hyn, ar ôl cymodi â Henry I, yn ymladd ar ochr y Brenin. Gan deithio gyda llu o Fflandrysiaid, digwyddodd Gerald ddod ar draws Owain a llu bychan, ac fe’i lladdodd. Ar ôl y digwyddiad hwn, ni fyddwn yn clywed mwy am Gerald ac nid ydym yn gwybod pryd y bu farw.

Yn ddiweddarach, bu Nest yn briod â dau ddyn arall: Siryf Penfro, William Hait, a chafodd blentyn gydag ef, sef William Fitzhait ac yna, Stephen, Cwnstabl Aberteifi, a chafodd fab arall gydag ef, sef Robert Fitzstephen, a fu’n un o goncwerwyr cyntaf Iwerddon. Nid yw dyddiad marwolaeth Nest yn hysbys, ac awgrymwyd y byddai wedi bod tua 1136. Ei gwaddol yw ei phlant niferus mewn gwirionedd: oddi hi, gwelwyd teyrnachau yn tarddu – teuluoedd Fitzgerald, Fitzhenry a Caeriw, a arweiniodd yr ymgyrchoedd yn erbyn Iwerddon. Roedd yn fam-gu Gerallt Gymro ac roedd Arlywydd John Fitzgerald Kennedy ymhlith ei disgynyddion enwog.

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Linda Asman
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
816
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment