David James: 'Delweddau Morwrol yng Nghadeirlan Tyddewi' (2021)
Disgrifiadau
Lede
Mae’r tu mewn i Gadeirlan Tyddewi yn cynnwys llawer o ryfeddodau cudd o ran delweddau morwrol, o fisericordiau pren sy’n portreadu salwch môr i graffiti o longau canoloesol.
Stori
Mae’r tu mewn i Gadeirlan Tyddewi yn cynnwys olion hynod ddiddorol o hanes morwrol Sir Benfro y gall ymwelwyr eu darganfod. Gellir gweld peth o’r etifeddiaeth honno yn y misericordiau, sef strwythurau pren o dan seddi plygu’r côr sydd i’w gweld mewn eglwysi canoloesol ar hyd a lled Ewrop. Maent yn portreadu amrywiaeth eang o olygfeydd, o fywyd domestig yn yr Oesoedd Canol i ddelweddau Beiblaidd a darluniau o angenfilod ac anifeiliaid a geir mewn bwystoriau. Maent yn gyforiog o fywyd a delweddaeth chwareus, wedi eu diogelu yno, o’r golwg.
Cerfiwyd holl fisericordiau Tyddewi o un bloc o dderw ac maent yn enghreifftiau gwych o grefftwaith a chelfyddyd cerfio pren. Fe’u ceir yn y côr ym mhen dwyreiniol y Gadeirlan. Mae llawer ohonynt yn cynnwys delweddau morwrol sy’n adlewyrchu cysylltiadau dwfn Tyddewi a Sir Benfro â’r arfordir a’r môr.
Mae un misericord yn portreadu pedwar dyn mewn cwch bach ar foroedd cythryblus. Mae un wrthi’n taflu i fyny dros ymyl y cwch ac mae ystumiau’r tri arall yn awgrymu eu bod yn cael pleser o’i weld yn dioddef: mae un yn curo’i gefn i’w helpu. Yn y portread o’r cwch ei hun, gwelir rhwyf yn ymddangos drwy dwll yn yr ochr – un o nodweddion amlwg llongau’r Llychlynwyr. Y stori sy’n gysylltiedig â’r cerfiad hwn yw bod Sant Gofan a dau gydymaith wedi’u hanfon i Rufain yn ystod y chweched ganrif i geisio copi o’r wir Offeren, a hynny gan eu Meistr, Sant Aelfyw o Gadeirlan Tyddewi. Yn ystod y daith, roedd Gofan yn dioddef cymaint o salwch môr nes y bu bron iddo farw. (Ceir yr hanes yn y llyfryn The Misericords of St. David’s Cathedral, Pembrokeshire). Mae misericord arall sy’n dyddio o’r ddeuddegfed ganrif yn dangos llong estyllog yn cael ei hadeiladu ar y lan. Mae’r seiri wrthi’n cymryd hoe, a gwelir bwyell yn gorwedd y tu ôl i un ohonynt. Mae gan y llong hon fforcas ôl a blaen a starn syth, sy’n awgrymu efallai mai ar y cefn y byddai’r llyw yn cael ei osod maes o law yn hytrach nag ar yr ochr yn null traddodiadol y Llychlynwyr.
Mae’r Gadeirlan hefyd yn gartref i ddarn o graffiti sy’n dangos amlinelliad o longau canoloesol wedi’u cerfio i’r gwaith cerrig (gweler y delweddau isod). Mae’r holl olion hyn yn rhan o rwydwaith cyfoethog treftadaeth forwrol yr ardal, a’r cysylltiad sydd rhwng Cadeirlan Tyddewi a’r byd ehangach o safleoedd crefyddol ar lannau Môr Iwerddon.
Tamaid hanesyddol
Roedd rhai o’r delweddau a geid ar fisericordiau yn Lloegr yn eithaf risqué! Cafodd llawer eu dinistrio yn y Diwygiad Protestannaidd neu eu gwaredu o’r eglwysi gan foesolwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment