Skip to main content

Frances Lynch Llewellyn: 'Fy Mywyd ar Fôr Iwerddon: Ambell i Atgof II' (2023)

Disgrifiadau

Lede
Mae Frances Lynch Llewellyn, archeolegydd Cymreig-Gwyddelig, yn disgrifio rhywfaint o'r archeoleg cynhanesyddol rhyfeddol yr oedd hi a'i myfyrwyr wedi dod ar ei thraws yn ystod eu teithiau maes archeolegol o Fangor i Iwerddon.

Stori
Arferem adael ar y cwch brynhawn ddydd Gwener o Gaergybi, ac yna, setlo yn ein llety. Ar y dydd Sadwrn, byddem yn teithio i gyfeiriad y de: i feddrodau De Dulyn, gan gynnwys Brennanstown, yna i fyny i'r bryniau i drafod daearyddiaeth yr arfordir a'r ynysoedd – Lambay a bwyeill cerrig neolithig; Dalkey a'r potiau Bicer Oes Efydd Cynnar, ac ar un diwrnod arbennig o glir, gallem weld Mynydd Caergybi a thrafod ei Gytiau Gwyddelod.
Weithiau, byddem yn mynd i Glendalough yn Wicklow, ac unwaith, dringom Allt Baltinglass, ac ymwelom â Chylch Cerrig Athgreany sawl gwaith.

Ar y dydd Sul, Dyffryn Boyne oedd y cyrchfan bob tro. Mentraf ddweud mai Fourknocks yw'r beddrod mwyaf llawn awyrgylch o blith Beddau Cyntedd Neolithig Boyne. Oherwydd yr angen i ddisodli'r to cyfan, bu cyfle i ddarparu system oleuadau gynnil ond hynod effeithiol ar gyfer y capanau drysau addurnedig clasurol. Caewch y drws solet y tu ôl i chi ac arhoswch i'ch llygaid gyfarwyddo. Trueni na fyddai gan Farclodiad y Gawres ar Ynys Môn ateb cystal i'w phroblemau golau!

Ar ein ffordd i Newgrange, arferem ymweld â Chaeadle mawr Dowth. Arferem fynd mewn i Fedd Cyntedd anferth Dowth hefyd yn ystod y dyddiau cynnar, cyn iddo gael ei gau i'r cyhoedd. Arferai hwnnw fod yn ymweliad cyffrous: siambr drawiadol, siambr danddaearol priodol o letchwith i gropian i mewn iddi, ac addurniadau da yn y siambr leiaf. Ac yna roedd Newgrange lle yr arferem gael croeso cynnes bob tro. O Newgrange, arferem fynd ymlaen i fedd cyntedd Knowth ac roedd hwnnw wastad yn safle cyffrous gan bod gwaith cloddio yn mynd rhagddo yn ystod sawl blwyddyn pan ymwelom â'r lle. Sawl gwaith, cawsom y cyfle i fwynhau cwmni y cloddiwr, Athro George Eogan, yn ystod ein hymweliadau â Boyne!

Ambell i flwyddyn, llwyddom i ymweld â Tara hefyd. Un flwyddyn – ar ôl y cyhoeddwyd yr holl geoffiseg – cawsom ymweliad llwyddiannus iawn, gan weld a fyddai modd i ni weld unrhyw arwyddion o'r henebion coll yn yr heulwen isel ar ddiwedd y dydd. Rhaid bod gennych chi ychydig brofiad i chwarae'r gêm honno!

Dydd Llun oedd ein diwrnod i ymweld â'r Amgueddfa Genedlaethol. Roedd hwn wastad yn ymweliad rhagorol gan ei fod ar gau ar ddydd Llun, felly dim ond ni oedd yno. Pan oeddwn yno y tro diwethaf – eleni – roedd rhai newidiadau wedi cael eu gwneud ar y cyrion, ond nid i'r craidd canolog – nac i'r pentwr o gerrig yn y 'gornel Neolithig' na fydd y rhan fwyaf o bobl yn rhoi fawr iawn o sylw iddynt wrth gerdded heibio iddynt yn ôl pob tebyg. Nid fi – oherwydd ym 1966, cloddiais Feddrod L Newgrange o ble y daw y cerrig, gan gynnwys slab addurnedig mawr a ymddangosodd ar stamp yn Iwerddon ar y pryd!

Roeddwn yn Iwerddon y diwrnod hwnnw er mwyn mynd i fyny i Knowth i ddathlu cyhoeddiad cyfrol olaf (7fed) y gyfres a oedd yn cofnodi'r cloddiadau yno. Bu'n ddiwrnod gwych, yn barti gwych, ac efallai ei fod wedi bod yn benllanw fy nghyswllt gydag archeoleg Iwerddon, a'i beddrodau cerrig yn arbennig. Ond rydw i'n siŵr y byddaf yn croesi'r môr hwn eto.

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Frances Lynch Llewellyn
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
598
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment