Frances Lynch Llewellyn: 'Fy Mywyd ar Fôr Iwerddon: Ambell i Atgof I' (2023)
Disgrifiadau
Lede
Mae Frances Lynch Llewellyn, archeolegydd Cymreig-Gwyddelig, yn hel atgofion am ei theithiau maes i Iwerddon, ac am groesi'r môr o Gaergybi i Ddulyn a Dun Laoghaire rhwng y 1960au a heddiw.
Stori
Fel y mae fy enw yn awgrymu, rydw i wedi croesi Môr Iwerddon sawl gwaith. Euthum i Iwerddon y tro cyntaf ar drywydd archeoleg ym 1960 pan oeddwn yn ymchwilio beddrodau megalithig Gogledd Cymru, ac roedd angen i mi weld y rhai Gwyddelig hefyd.
Fy atgof o'r ymweliad cyntaf hwnnw â beddrod porthol Brennanstown, yn ne Dulyn, oedd yr hen ddyn a welais wrth ymyl y ffordd yn gwthio beic a dau fwced o ddŵr ar y cyrn, yn hytrach na'r maen capan enfawr. Yn 2000, wrth ymweld â Brennanstown gyda grŵp o fyfyrwyr israddedig, ebychom, nid o weld y maen capan, ond o weld cost sylweddol y tai sy'n cael eu hadeiladu ger Brennanstown nawr!
Dros y blynyddoedd, bu nifer fawr o newidiadau yn Brennanstown. Ym 1960, cerddom o'r ffordd fechan gan groesi ychydig gaeau gwyrdd. Erbyn yr oeddwn yn dod â myfyrwyr ar deithiau rheolaidd bob chwe mis, roedd byngalo mawr wedi cael ei adeiladu ac roedd gardd yn rhwystro'r llwybr. Ar ôl holi wrth y drws – roedd croeso i ni groesi, dim problem. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd yn well fyth – roedd pensaer wedi prynu'r eiddo ac wedi creu llwybr a chamfa. Nid oedd angen gofyn hyd yn oed. Yna, bu'n gartref diplomydd o'r Dwyrain Canol, ac roedd dynion â gynnau yn ei warchod. Roedd hynny ychydig yn anos. Yna, bu'n gartref ci ffyrnig iawn; arferai chwyrnu atom, ond cawsom weld y beddrod.
Ym 1965, roeddwn yn gweithio yng ngwaith cloddio Newgrange ac roedd car gennyf, ond nid oedd fferïau ceir ar y pryd, ac roedd wedi cyrraedd North Wall ar long fasnachol. Cofiaf yn dda sefyll wrth y llong yn gwylio'r car yn siglo ar graen, cyn cael ei roi i lawr wrth fy ymyl ar y cei. Ar y ffordd i'r gogledd, cefais ddamwain fechan gyda dyn mewn fan. Daeth allan a rhwbio fy nghar lle'r oedd wedi crafu'r paent, a dywedodd “Bydd hwn yn iawn yn y bore!”
Un flwyddyn, ar ôl croesi o Ddulyn i Gaergybi yn ystod tywydd garw, roeddwn yn teimlo ychydig yn sâl. Yna edrychais allan o'r ffenestr a gwelais Fynydd Caergybi, a theimlais yn well yn syth. Mae mynyddoedd hud yn bodoli! Heb os, mae hwn yn un! Mae cymaint o hanes iddo. Mae'r llethr cysgodol wedi'i orchuddio â thai cerrig crwn y bu pobl yn byw ynddynt trwy gydol cynhanes; mae caer cynhanesyddol hwyr ar y brig, gyda gorsaf rybuddio Rufeinig, a fyddai'n hysbysu'r caer oddi tano am ddyfodiad ysbeilwyr o Iwerddon. Mae'n drist nad oes rheswm i deithwyr gael eu dal yng Nghaergybi mwyach ers dyfodiad llongau modur, a'u bod yn cael amser i ymweld â'i heglwys ddiddorol iawn – a sefydlwyd gan St Cybi yn y 6ed ganrif y tu mewn i'r caer Rhufeinig oddi tani, y mae ei waliau yn ei hamgylchynu o hyd.
Dros y blynyddoedd yr wyf wedi bod yn teithio, mae llongau fferi wedi newid yn llwyr. Ni allaf gofio pryd oedd y tro cyntaf yr euthum â grŵp o fyfyrwyr o Brifysgol Bangor am benwythnos o waith maes yn Iwerddon mewn bws mini. Arferem fynd bob yn ail flwyddyn – seibiant delfrydol i arsylwi'r newidiadau a thwf y Teigr Gwyddelig o 1973 pan ymunodd Iwerddon a'r DU â'r Undeb Ewropeaidd.
Wrth deithio ar fy mhen fy hun, roedd y Llongau Cyflym (HSS) yn ddefnyddiol iawn – roeddwn yn arfer gadael Caergybi tua 8.00am a byddwn yn yr Amgueddfa Genedlaethol erbyn 11.00am – a gartref eto erbyn canol nos. Nid oedd yr un gyntaf y teithiais arni yn gyffyrddus: bu'n daith stormus – pob wyneb caled wedi'i glustogi a nifer fawr o ganllawiau er mwyn cydio ynddynt! Ond fe'u sefydlogwyd yn gyflym. Fe'u cyflwynwyd tua canol y 1990au, ond maent bellach wedi diflannu: fel Concorde – gwych, ond yn rhy ddrud i'w rhedeg.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment