Skip to main content

Natasha de Chroustchoff: 'Eneidiau Coll yn y Tywod' (2022)

Disgrifiadau

Lede
Cyfres o gloddiadau archeolegol yn 2016 ym Mhorthmawr yn datgelu cannoedd o gladdedigaethau, yn dyddio'n ôl i ddyddiau cynnar Cristnogaeth yng Nghymru a chroesi Môr Iwerddon yn ystod yr oesoedd canol.

Stori
Mae Bae Porthmawr gyda'i draeth tywodlyd hir, ei donnau a'i olygfeydd godidog yn gyrchfan syrffio byd-enwog, ac mae'n draeth gwyliau poblogaidd hefyd. Ddwy filltir i'r gorllewin o Dyddewi, mae ganddo hanes hir fel lle cyrraedd ac ymadael. Mae'r twyni tywod wrth ben gorllewinol y traeth yn celu tystiolaeth o fywyd dynol a marwolaeth sy'n dyddio'n ôl i'r oes Gristnogol gynnar yn y rhan hon o Gymru. Yn draddodiadol, bu'n safle Capel Sant Padrig o'r ddeuddegfed ganrif, y soniwyd amdano gan George Owen, hanesydd, ym 1603:

Mae Capel Padrig [i'r] gorllewin o Dyddewi ac mae wedi cael ei osod mor agos i'w wlad, sef Iwerddon, ag y gallai fod. Mae bellach wedi dadfeilio'n llwyr.

Yr awgrym, felly, yw mai Porthmawr oedd y man lle'r oedd Sant Padrig wedi hwylio ohono am Iwerddon yn y bumed ganrif, gan ddod yn nawddsant y wlad honno yn ddiweddarach. Heb os, byddai pererinion Gwyddelig i gysegrfa Dewi Sant wedi glanio yma hefyd, ac roedd y traeth llethrog yn ei wneud yn orsaf fasnachu naturiol ar gyfer nwyddau a gludwyd ar y môr.

Mor bell yn ôl â 1890, adroddodd papur newydd lleol am esgyrn dynol a olchwyd allan o'r twyni yn dilyn storm. Wrth i hyn barhau, daeth yn amlwg y bu'r ardal yn gladdfa ar un adeg. Gosodwyd meini mawr yno i ddiogelu'r safle ond gwelwyd lefelau'r môr a oedd yn codi yn gwaethygu'r erydu. Yn 2014, penderfynwyd cloddio yma ar fyrder neu byddai'r safle yn cael ei golli am byth.

Ers hynny, cynhaliwyd cloddiadau yma dros sawl haf a gwelwyd canlyniadau rhyfeddol. Hyd yn hyn, datgladdwyd dros gant o gladdedigaethau ac amcangyfrifir y gallai fod dros fil yma at ei gilydd. Mae gwaith dyddio radio-carbon wedi dangos y defnyddiwyd y gladdfa rhwng chweched a deuddegfed ganrif yr oesoedd canol. Claddwyd dynion, menywod a phlant o bob oed yma, a chladdwyd nifer ohonynt mewn beddau wedi'u leinio â cherrig o'r enw cistiau. “Mae'n debygol eu bod yn gymysgedd o bobl leol a morwyr, masnachwyr, pererinion ac eraill a oedd wedi teithio i Dyddewi,” dywedodd un o'r cyfarwyddwyr cloddio.

Claddwyd yr holl feirw yn wynebu'r haul yn codi – o'r dwyrain i'r gorllewin – fel sy'n arferol mewn arfer crefyddol Cristnogol a chyn-Gristnogol. Ni chladdwyd unrhyw eiddo personol gyda'r cyrff ond gwelwyd casgliadau bychain o gerrig cwarts bychain ym meddau'r plant, traddodiad a nodwyd mewn beddau Cristnogol cynnar mewn ardaloedd eraill (ac y mae modd eu gweld mewn mynwentydd Iddewig heddiw.)

Mae'r olion dynol a gloddiwyd yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd i weld beth arall y bydd modd ei ddysgu ohonynt, ond yn y pen draw, byddant yn cael eu claddu eto yn Sir Benfro mewn ffordd barchus – ond nid yn nhywod y twyni sy'n symud. Bydd cloddiadau pellach yn parhau, mewn ras yn erbyn yr erydu arfordirol. Ceir nifer yn fwy o feddau, yn ogystal ag olion adeilad y credir ei fod yno cyn capel Sant Padrig. Mae gan y dystiolaeth archeolegol a gaiff ei datgladdu ym Mhorthmawr y potensial i drawsnewid ein dealltwriaeth o'r boblogaeth Gristnogol a fu'n byw ac yn marw yn Sir Benfro yn ystod yr oesoedd canol cynnar.

Rhwng 2014 a 2016, cynhaliwyd y cloddiadau gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a Phrifysgol Sheffield, gyda chymorth CADW, Ymddiriedolaeth Elusennol Nineveh ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir Benfro. Cychwynnwyd ar gloddiadau pellach yn 2019 fel rhan o Brosiect Cysylltiadau Hynafol a ariannwyd gan UE, dan arweiniad Cyngor Sir Penfro.

Tamaid hanesyddol
- Mae Porthmawr ychydig funudau i ffwrdd mewn car/bws o Dyddewi ac mae'n cynnwys cyfleusterau llawn i ymwelwyr, ynghyd â chyfleoedd i fwynhau chwaraeon dŵr a theithiau mewn cwch i weld y bywyd gwyllt o gwmpas Ynys Dewi.

- Mae Porthmawr ar lwybr arfordir Sir Benfro, a cheir llwybrau cerdded gwych i fae bychan Porthmelgan, Penmaen Dewi, siambr gladdu cynhanesyddol Coetan Arthur a bryn Carn Llidi gyda'i ddau feddrod siambrog ac olion amddiffynfeydd o adeg y rhyfel.

- Wrth ben uchaf maes parcio Porthmawr, gwelir cofeb i bedwar awyrennwr Americanaidd a fu farw pan syrthiodd eu hawyren gerllaw ym 1943.

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Natasha de Chroustchoff
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
457
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment