Skip to main content

Natasha de Chroustchoff: 'Rhostir Wdig' (2023)

Disgrifiadau

Lede
Gwerddon bywyd gwyllt ynghudd rhwng y Ddwy Dref

Stori
Os oes gennych chi awr neu ddwy i’w sbario, efallai cyn dal y fferi neu’r trên, mae gwarchodfa natur dawel gerllaw sy’n ddelfrydol os hoffech fynd am dro.

Ar draws y ffordd o draeth Parrog, gwelir cors llawn cyrs a ffurfiwyd pan orlifodd y môr ar y tir ar ôl yr Oes Iâ ddiwethaf. Mae’r dyffryn gwlyb hwn yn ei wneud yn gynefin delfrydol i blanhigion ac anifeiliaid sy’n hoffi amgylchedd dyfrllyd. Mae llwybr troed yn rhedeg y tu ôl i’r warchodfa, sy’n cynnig llwybr diddorol, gyda golygfeydd godidog tuag at yr harbwr ac Wdig. Mae llwybr estyllod newydd yn cael ei greu (2023) a fydd yn caniatáu mynediad i’r gwely cyrs ei hun i’r rhai sydd wrth eu bodd gyda byd natur.

Yn gynnar yn y bore, efallai y byddwch yn gweld llwynogod, moch daear neu ddyfrgwn swil yn y prysgwydd; yn ystod y dydd, bydd adar fel telorion yr hesg a thelorion y cyrs, breision wynebddu ac ieir dŵr yn cuddio ymhlith y cyrs; yn aml, bydd cudyllod gleision, bwncathod a chudyllod coch yn hedfan uwchben mewn cylch gan chwilio am famaliaid bychain, amffibiaid ac ymlusgiaid. Gwelir ieir bach yr haf, gweision y neidr a mursennod yn gwibio dros y gors yn ystod yr haf.

Mae’r fynedfa i’r llwybr troed ychydig uwch ben Gwesty Seaview ar y rhiw sy’n arwain tuag at Abergwaun. Mae llwybr yn eich tywys i lawr i bont bren dros Nant Wdig sy’n ffurfio ffin y plwyf rhwng y ddwy dref, ac oddi yno i sarn a choed helyg a gwern ar ei hyd. Mae’r llwybr yn codi rhwng dau bostyn gât carreg enfawr i ddod yn lôn a choed ar ei hyd a hen fanciau caerog sy’n cynnwys llu o flodau gwyllt: llysiau’r wennol, briallu, clychau’r gog, bysedd y cŵn, blodau neidr. Yn y darn mwy gwlyb, mae gold y gors a gellesg yn ffynnu.

Mae Rhostir Wdig yn llecyn heddychlon nawr, ond mae ganddo hanes ychydig yn fwy tywyll fel llwybr smyglo i fyny o’r traeth i’r ffordd dyrpeg, gan ganiatáu i gontraband osgoi’r dref. Gelwir yr ardal hon yn Gwm Brandi o hyd. Yn gynharach fyth, yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg, roedd brwydr fawr wedi digwydd yma rhwng dau arglwydd rhyfel Cymreig.

Mae’r llwybr yn gorffen wrth ffermdy Drim gyda’i ardd â wal o’i chwmpas, ac o’r fan honno, ceir llwybr hawdd yn ôl i’r Parrog, gyda golygfeydd ar draws y gors tuag at Abergwaun.

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Natasha de Chroustchoff
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
506
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

Sylwadau (1)

You must be logged in to leave a comment