Chris Williams: 'Cyfnod Trawsatlantig Abergwaun' (2021
Disgrifiadau
Lede
Rhwng 1909 a’r Rhyfel Byd Cyntaf bu Abergwaun yn cystadlu â Lerpwl fel y porthladd cyntaf i longau oedd yn croesi Môr Iwerydd o Efrog Newydd.
Story (Welsh)
Ym mis Awst 1909 galwodd y llong deithio Mauretania am y tro cyntaf yn Abergwaun, ar ôl creu record newydd am y croesiad cyflymaf dros Fôr Iwerydd o Efrog Newydd. Cyhoeddwyd gŵyl gyhoeddus, a chyrhaeddodd trenau undydd o Abertawe, Llanelli a rhannau eraill o’r De, a daeth torfeydd ynghyd ar Ben-caer ac yn y dref i nodi'r achlysur. Gyda threnau cyflym yn aros yn barod i fynd â’r post a’r teithwyr i Lundain ac oddi yno i Dover a Paris, y gobaith oedd y byddai Abergwaun cyn hir yn herio Lerpwl fel y dewis borthladd i’r rhai oedd yn croesi’r Iwerydd. Roedd y gwaith o adeiladu Harbwr Abergwaun wedi dechrau ym 1893, yn wreiddiol o dan gyfarwyddyd Cwmni Rheilffyrdd a Harbwr Abergwaun, a anelai at gystadlu â therfynfa fferis Neyland a oedd yn perthyn i Reilffordd y Great Western.
Cymerodd y GWR y prosiect drosodd ym 1898 gyda'r gobaith nid yn unig o wella’i draffig gydag Iwerddon, ond hefyd o herio rheolaeth Lerpwl dros farchnad teithwyr yr Iwerydd. Cafodd glaniad y Mauretania, sef llong fwyaf y byd ar y pryd, ei weld fel diwrnod o bwys i Abergwaun a'r GWR, pan ostyngodd hi amser y daith o Lundain i Efrog Newydd o chwech awr, sef taith oedd yn mynd drwy Lerpwl fel arfer. Erbyn i chwaer long y Mauretania, sef yr anffodus Lusitania, gyrraedd Abergwaun bythefnos wedyn, llwyddodd trên cyflym a stopiodd unwaith yn unig (yng Nghaerdydd) i fynd â’r teithwyr o’r porthladd i Lundain mewn llai na phum awr.
Cafodd y Mauretania ei hun ei chyfarch gan dorf amrywiol yn cynnwys Band Dirwest Doc Penfro, adrannau o filwyr y Fyddin Diriogaethol, a llawer o fenywod mewn gwisg draddodiadol Gymreig. Yn ôl papur newydd y Western Mail, 'seldom can such a large number of genuinely old Welsh costumes and beaver hats be seen together as was witnessed in this procession. It is quite probable that some of these red wintles and beaver hats were actually worn in 1797 by the gallant Welsh women who that year frightened the French invaders'. Yn briodol ddigon, Americanwr o Gymro oedd y teithiwr cyntaf i ddod oddi ar y llong. Hynafgwr digon cartrefol ei olwg oedd hwn yn ôl y papur, yn gwisgo siwt o frethyn cartref oedd yn sicrhau ei fod yn gyfarwydd ar unwaith i lawer. Aeth yr adroddiad ymlaen:
'West Wales can produce hundreds of rural residents as like him as two peas in appearance and demeanour.'
Un o Lanbedr Pont Steffan yn wreiddiol oedd Jenkin Evans a bu’n byw yn America ers dros ddeugain mlynedd, ar ôl ymgartrefu yn Kansas City. Roedd wrth ei fodd yn rhoi cyfweliadau i'r wasg yn Gymraeg ac yn Saesneg. Nododd cartwnydd y 'Western Mail’ J.M. Staniforth y cynnydd yn statws Abergwaun mewn tri chartŵn, ac ymddangosodd un ohonynt ym mhapur newydd dydd Sul Prydeinig y 'News of the World’. Cafodd dau o'r rhain eu hailgyhoeddi wedyn yn ei gyfrol foethus o gartwnau a gyhoeddwyd ym 1910. Mewn un cartŵn portreadodd Staniforth y GWR fel 'Ercwlff modern' a oedd i bob pwrpas wedi cau'r pellter rhwng Llundain ac Efrog Newydd, ac mewn un arall mynegodd ei gymeriad ystrydebol 'Dame Wales' foddhad mawr ynglŷn â’r rhagolygon y byddai Abergwaun yn denu mwy o
fusnes teithwyr y llongau.
Yn ôl erthygl olygyddol yn y Western Mail, 'Liverpudlians are not taking kindly to the diversion of Atlantic trade'! Er hynny, breuddwyd gwrach oedd y gobaith y byddai Abergwaun yn cystadlu o ddifrif â Lerpwl yn y tymor hir. Yn ddelfrydol, roedd angen glanfeydd er mwyn i bobl a nwyddau symud yn gyflym o’r llongau i’r lan, ond barnwyd bod cost codi’r rhain yn afresymol o gofio natur ysbeidiol y traffig. A bu dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ryw bum mlynedd ar ôl glaniad y Mauretania yn ddiwedd ar unrhyw obaith pellach.
Tamaid hanesyddol
- y Mauretania yn gwisgo 'red wintles and beaver hats… now carefully preserved as heirlooms' am eu bod wedi’u gwisgo pan gafodd ymosodiad y Ffrancwyr ei atal ym 1797.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment