Skip to main content

Jeremy Martineau, Ena Jean O'Neill: Fishguard Bay Boat Tours (2022)

Disgrifiadau

Lede
Menter twristiaeth leol i archwilio Bae Abergwaun o'r môr.

Stori
Wrth i deithio rhyngwladol arafu'n sylweddol yn ystod cyfyngiadau Covid19, rhoddwyd sylw i gyfleoedd twristiaeth lleol, ac i ardaloedd o harddwch naturiol megis arfordir Gogledd Sir Benfro yn arbennig.

Ar ôl ychydig oedi oherwydd y pandemig, gwelwyd Teithiau Cwch cyntaf Bae Abergwaun yn hwylio o Ddoc Abergwaun yn ystod yr haf 2021, dan arweiniad arbenigol Sgiperiaid Padrig a Ffion Rees o Blue Shark Charters a Falcon Boats. Maent yn dod o deulu lleol o forwyr ac mae gwybodaeth teulu Rees o'r dyfroedd ar hyd yr arfordir yn crisialu gwerthoedd a chenhadaeth ein cwmni, Teithiau Gogledd Sir Benfro (NPT): sef cynnig teithiau cartref a dilys o safleoedd nad ydynt yn cael eu cydnabod ddigon yn y rhanbarth ar y tir, trwy Deithiau Cerdded Abergwaun, ac ar y môr, ar wasanaeth Teithiau Cwch Bae Abergwaun a lansiwyd yn ddiweddar.

Gan adrodd straeon llai adnabyddus Abergwaun ac Wdig wrth fwynhau'r golygfeydd godidog o arfordir gerwin Cymru, mae Teithiau Cwch Bae Abergwaun yn cynnig golwg agos o'r dreftadaeth fôr eithriadol, y bywyd gwyllt a'r golygfeydd sy'n diffinio'r rhanbarth hynafol hwn. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn goleudai neu lamhidyddion, yr Ymosodiad Diwethaf neu'r Daith Gyntaf mewn Awyren ar draws Môr Iwerddon, trysor Barti Ddu neu Ben-caer, mae'r olygfa o arfordir gogledd Sir Benfro yn un heb ei hail, a bydd sawl syrpréis annisgwyl! Bydd y teithiau cwch yn para tua 1.5 awr, gan adael o harbwr Abergwaun a hwylio allan i Ben-caer.

Arweiniodd cyfuniad o wybodaeth leol ac angerdd ynghylch hanes a thirlun rhyfeddol yr arfordir gwyllt yng ngogledd y sir at sefydlu Teithiau Gogledd Sir Benfro yn 2018. Gyda chymorth ariannol gan LEADER a Siambr Fasnach a Thwristiaeth Abergwaun ac Wdig, sefydlwyd NPT gydag arweinwyr teithiau lleol, ac mae'n parhau i weithredu ar sail nid-erelw er mwyn cynnig profiadau o ansawdd uchel ar ffurf teithiau sy'n dwyn twristiaid wyneb yn wyneb gydag amrywiaeth eang y safleoedd o ddiddordeb ar draws Gogledd Sir Benfro.

Ein cenhadaeth yw cynnig teithiau bach fforddiadwy i ymwelwyr a phreswylwyr, gan arddangos cyfoeth y nodweddion hanesyddol, diwylliannol, naturiol a phensaernïol sy'n gwneud Gogledd Sir Benfro mor unigryw. Wrth wneud hyn, rydym yn cynorthwyo talent lleol trwy sicrhau cyflenwyr marchnata, argraffu a brandio yn y rhanbarth, gan ysgogi gweithgarwch pellach ar draws y rhanbarth trwy gymell diddordeb ar gyfryngau cymdeithasol a chynyddu nifer yr ymwelwyr â busnesau lleol.

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Jeremy Martineau, Ena Jean O'Neill
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
441
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment