Natasha de Chroustchoff: 'Ein Hanes | Our History' (2023)
Disgrifiadau
Lede
Darganfod y gorffennol yn Abergwaun ac Wdig
Stori
Mae Ein Hanes yn gasgliad o atgofion a phethau cofiadwy sy’n cynnig cipolwg i ymwelwyr o stori’r Ddwy Dref. Fe’i lleolir yn Sgwâr Abergwaun, mewn hen siop sydd ddau ddrws i fyny o Neuadd y Dref ac oriel Tapestri yr Ymosodiad Olaf.
Sefydlwyd Ein Hanes yn 2016 ar gais pobl leol gyda chymorth Cyngor Sir Penfro. Caiff ei drefnu a’i redeg yn llwyr gan wirfoddolwyr, y mae gan nifer ohonynt hen atgofion a gwybodaeth eang am yr ardal. Mae eraill yn bobl sydd wedi symud i’r ardal ac y mae ganddynt ddiddordeb mewn hanes lleol, ac maent yn awyddus i’w rannu gydag ymwelwyr.
Mae Ein Hanes yn cynnwys cyfoeth o ddeunydd hanesyddol ar ffurf mapiau, ffotograffau, papurau newydd, llyfrau, delweddau a gwrthrychau o ddiddordeb, o gyfnod cynhanes i’r cyfnod sydd o fewn cof pobl sy’n fyw heddiw: rhannwyd neu roddwyd cryn dipyn o hwn gan bobl leol. Mae croeso i chi grwydro o gwmpas, pori trwy’r deunydd, tynnu lluniau neu holi cwestiynau – byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig atebion i chi. Gallwn gynnig cyngor hefyd ynghylch ble i fynd, sut i gyrraedd mannau penodol neu sicrhau’r golygfeydd mwyaf ffotogenig. Mae gan rai ymwelwyr ymholiadau am gyndeidiau lleol ac er ei bod yn well troi at Archifau’r Sir gydag ymholiadau o’r fath, efallai y byddwn yn gallu awgrymu cysylltiadau. (Mae ein prosiect cysylltiedig, gwefan Hanes Abergwaun, yn adnodd arall sy’n llawn gwybodaeth, ac y mae’n hawdd troi ato ar-lein).
Mae pynciau o fewn Ein Hanes yn cynnwys: cynhanes yr ardal, datblygiad y ddwy dref o fod yn harbwr pysgota i fod yn borthladd rhyngwladol, Ymosodiad y Ffrancod ym 1797, dyfodiad y rheilffordd ym 1899, oes llongau mawrion Cunard, y daith gyntaf mewn awyren rhwng Prydain ac Iwerddon ym 1912, digwyddiadau lleol yn ystod y ddau Ryfel Byd, y lleoliadau ffilm a ddefnyddiwyd ar gyfer Moby Dick ac Under Milk Wood, a hanes mwy diweddar. Mae arddangosiadau ffenestr deniadol yn defnyddio eitemau lleol a gwaith celf i ddangos bywyd morol a gwledig traddodiadol.
Mae Ein Hanes ar agor 5 diwrnod yr wythnos rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Ni chodir tâl mynediad: mae’n dibynnu ar roddion, gwerthu cardiau a llyfrynnau, ac amodau hael ar gyfer y safle y mae’n ei rentu. Dros fisoedd y gaeaf, rydym yn cynnig cyfres o anerchiadau am faterion hanesyddol a cheir tudalen Face book sy’n rhannu newyddion a gwybodaeth. Mae camau yn cael eu cymryd i sicrhau statws amgueddfa mewn lleoliad newydd – rhywbeth ar gyfer y dyfodol. Yn y cyfamser, mae pob ymwelydd yn helpu i baratoi’r ffordd: rydym yn croesawu eich diddordeb.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment