Richard Bradley: 'Harbyrau Cynhanesyddol Cynharach yn Iwerddon a Phrydain' (2022)
Disgrifiadau
Lede
Mae Athro Richard Bradley yn cynnig ffenestr i natur harbyrau a theithio ar draws Môr Iwerddon yn ystod y cyfnod cynhanesyddol, ac mae hwn yn faes a ystyrir yn ei lyfr newydd, Maritime Archaeology on Dry Land.
Stori
Nid oes llawer yn hysbys am y pwnc hwn, a dim ond academydd wedi ymddeol fyddai'n ddigon byrbwyll i ymgymryd ag ef. Ond mae posibiliadau diddorol i'w hystyried. Dyma pam yr ysgrifennais lyfr yn ddiweddar o'r enw Maritime Archaeology on Dry Land. Roedd yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 4000 a 1500 CC yn bennaf – Oes Newydd y Cerrig a'r Oes Efydd Gynnar – ond bu'r drafodaeth yn manteisio ar ffynonellau gwybodaeth hwyrach hefyd, gan ymestyn o'r mileniwm cyntaf CC i'r Oesoedd Canol.
Mae'r cyfeiriad at Archeoleg Môr yn ddigon syml, ond sut y gall hyn ymestyn i dir sych? Roedd fy ngwaith yn astudio archeoleg yr arfordir hynafol lle y mae'n goroesi uwch ben lefel y môr modern. Ers Oes yr Iâ ddiwethaf, mae Prydain ac Iwerddon wedi bod yn gwyro. Wedi'u rhyddhau o bwysau rhewlifoedd, mae ardaloedd gogleddol wedi codi, ond yn y de, mae'r traethlin hynafol dan y dŵr i raddau helaeth. Ceir cyfoeth o ddeunydd archeolegol o ranbarth 'codiad isostatig', ond dros y blynyddoedd diwethaf, ni roddwyd fawr iawn o sylw iddo.
Wrth gwrs, arferai teithio ar y môr fod yn bwysig yn ystod y cyfnod cynhanesyddol. Anheddwyd Prydain ac Iwerddon gan ffermwyr o dir mawr Ewrop a ddaeth ag adnoddau amaethyddol gyda nhw, a gwnaethpwyd bwyeill cerrig mewn chwareli a chloddfeydd yn agos iawn i'r arfordir. Ceir beddau o'r Oes Efydd Cynnar ar ffurf cwch, ond daw'r dystiolaeth gryfaf o gyfres o aberoedd amgaeëdig lle y darganfuwyd niferoedd enfawr o arteffactau cynhanesyddol ar y barrau tywod neu graean a oedd yn diogelu ardaloedd o ddŵr cysgodol. Roedd yr un peth yn wir am rai ynysoedd ar y môr, ac mae astudiaethau o arfordiroedd hynafol yn dangos eu bod nhw eisoes wedi ffurfio erbyn y cyfnod Neolithig.
Yn Iwerddon, yr enghreifftiau gorau yw Traeth Dundrum ac Ynys Dalkey; un arall oedd Merthyr Mawr yng Nghymru. Mae'r mannau hyn yn cynnwys gwrthrychau y mae'n debygol eu bod wedi cyrraedd yma ar y môr, ond roedd hi'n amlwg bod eraill yn cael eu gwneud yno. Er enghraifft, cludwyd copr o Iwerddon ar draws Ucheldiroedd yr Alban a chafodd ei drin ar Draeth Culbin ger Bae Findhorn; cynhyrchwyd pennau saethau fflint ar yr un safle. Roedd y mannau hyn yn cyflawni rôl arbenigol ac roeddent ar wahân i'r aneddiadau a'r henebion a welwyd yn ystod yr un cyfnod. Yn fy llyfr i, fe'u cymharir gyda 'mannau glanio' a 'marchnadoedd traeth' y cyfnod hanesyddol.
Gwelwyd y ffafriaeth hon o faeau bas wedi'u diogelu gan draethellau naturiol yn para tan ddiwedd yr Oes Efydd Gynnar. Erbyn hynny, roedd arwyddocâd y mannau hyn yn newid. Ceir llai o dystiolaeth o arteffactau arbennig, a dewiswyd y lleoliadau hyn fel mynwentydd cyn iddynt stopio cael eu defnyddio. Ceir mwy o dystiolaeth o leoliadau yr oedd ganddynt fynediad gwell i fetel Cyfandirol, ac roedd aberoedd afonydd mawr fel y Tafwys, yr Hafren a'r Humber yn cyflawni rôl llawer mwy, yn yr un modd â thraethau agored fel yr un ym Mae Whitepark yng ngogledd Iwerddon. Datblygodd cychod i fod yn gynyddol gadarn ac mae'n debygol eu bod wedi teithio ymhellach.
Collodd cenhedlaeth gyntaf yr harbyrau cynhanesyddol eu harwyddocâd ac nid ydynt wedi cael fawr iawn o sylw tan nawr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment