Rita Singer: 'Bendith a Melltith wrth Ffynhonnau Sanctaidd Môn' (2021)
Disgrifiadau
Lede
Mae'r arfer o ymweld â ffynnon i ofyn am fendith yn draddodiad yng Nghymru ers canrifoedd. Ond rhywbeth llawer mwy diweddar yw melltithio’ch gelynion pennaf.
Stori
Mae yna draddodiad hir ledled Cymru o barchu’r saint a'u ffynhonnau sanctaidd. Ac mae hyn yn cynnwys y ffynhonnau o amgylch Caergybi. Mae eu hen ddefnydd a'u pwysigrwydd yn adlewyrchu arfer y canrifoedd a newidiadau mewn agweddau tuag at fywyd ac yng nghredoau’r werin.
Ychydig i’r gorllewin islaw Mynydd Twr mae adfeilion Capel Lochwydd, sydd wedi'i labelu fel 'Capel Yloughwid' ar fap John Speed o Ynys Môn ym 1610. Gan ei fod yn adfail ers ymhell dros ganrif, does dim modd gweld llawer mwy na sylfeini'r waliau erbyn hyn. Roedd y ffynnon, sydd wedi'i chysegru i sant anhysbys, yn arfer llifo o hollt yn y creigiau gerllaw, ond mae wedi sychu bellach. Yn ôl y chwedl leol, roedd y ffynnon yn boblogaidd ymysg ymwelwyr a oedd am ganfod pwy fyddai eu gŵr neu eu gwraig yn y dyfodol. Wedi cymryd llond ceg o ddŵr o'r ffynnon a chodi graean ym mhob llaw, byddai'r credinwyr yn cerdded yn ôl i'r eglwys ac yn gosod y cyfan ar allor garreg yr eglwys fach heb ollwng dim. Pe baen nhw’n llwyddiannus, fe fydden nhw’n priodi eu darpar briod o fewn blwyddyn.
Yn ôl coel gwlad, roedd gan ffynhonnau a oedd yn gorlifo tua’r de y pŵer i felltithio. Ym mhentref cyfagos Penrhos, ymwelai’r bobl leol â ffynnon a oedd i fod â phwerau i iacháu yn ogystal â melltithio. Dywedid bod y dŵr yn gallu iacháu canser pe bai'r claf yn ymdrochi ynddo. Fel arall, drwy lefaru melltithion a gollwng pinnau o amgylch y ffynnon, gallai ymwelwyr wneud i’w gelynion ddioddef canser. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd cymaint o alw am y ffynnon nes bod y difrod mynych i'r eiddo cyfagos wedi achosi i'r ffermwr oedd biau’r tir lle roedd y ffynnon fynd ati i ddinistrio'r ffynnon drwy ei draenio.
Ymhellach i'r dwyrain ger Llaneilian, roedd Ffynnon Eilian hefyd yn iacháu. Byddai'r sawl a oedd yn ceisio talu’r pwyth yn gosod ceiniogau arian mewn cist elusennol arbennig (cyff Eilian) yn yr eglwys gyfagos. Wrth gloddio'r ffynnon ym 1925, daethpwyd o hyd i lechen fach a delw gwyr fach wedi’i phinio iddi. Fel roedd yn gyffredin gyda thabledi melltithio bach, roedd llythrennau wedi'u crafu ar wyneb y llechen, gan ddymuno anffawd i 'RF'.
Yng Nghymru, roedd pobl wedi bod yn ymweld â ffynhonnau yn sgil eu pwerau i iacháu ers canrifoedd. Dim ond yn ail hanner y ddeunawfed ganrif y dechreuwyd defnyddio ffynhonnau i fwrw melltith, a dim ond am ryw hanner can mlynedd y parhaodd yr arfer.
Tamaid hanesyddol
- Dwedwyd roedd gan Ffynnon Eilian nerth rhinweddol eithriadol yn debyg i Ffynnon Gwenffrewi, Treffynnon.
- Mae ffynnon melltithio arall o enw Ffynnon Eilian yn Llaneilian-yn-Rhos, Sir Conwy.
- Parhaodd pobl yng Nghymru i ymweld â ffynhonnau cysegredig hyd yn oed ar ôl y Diwygiad Protestannaidd.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment