Claire Nolan a Gary Jones: 'Beddrod Siambrog Cynhanesyddol Carn Wnda' (2022)
Disgrifiadau
Lede
Mae beddrod siambrog daear sefydlog Carn Wnda (Garnwnda), a leolir ger pentref Llanwnda, tua 4 cilomedr i'r gogledd-orllewin o Abergwaun, yn un o nifer o safleoedd cynhanesyddol ar hyd arfordir Sir Benfro.
Stori
Lleolir Carn Wnda i fyny yn uchel ar benrhyn Pencaer i'r dwyrain o Ben-caer, ac mae'n un o chwech beddrod siambrog cynhanesyddol sydd wedi goroesi ar hyd y pentir hwn. I'r dwyrain o Garn Wnda, gwelir safleoedd megalithig Parc y Cromlech (Penrhiw), a chladdfa Garn Wen, sy'n cynnwys olion gweladwy tri beddrod ar wahân heddiw. I'r gorllewin, gwelir beddrod Garn Gilfach. Aeth Gary Jones â thîm Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw, i weld yr heneb hon sy'n 5,000 o flynyddoedd oed, gan archwilio'r tirlun hynafol o'i hamgylch.
Dosbarthir Carn Wnda fel cofeb siambrog 'daear sefydlog', gan ei fod yn cynnwys slab carreg mawr neu faen capan sy'n cael ei gynnal gan un garreg, ac mae pen deheuol y maen capan yn gorffwys ar y ddaear, gan ffurfio siambr. Mae'r siambr yn cynnwys pant dwfn wedi'i dorri yn y graig, ac mae'n debygol nad oedd fyth wedi cael ei orchuddio gan domen gladdu.
Dadorchuddiodd ymchwiliad hynafiaethol Richard Fenton o'r siambr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg dystiolaeth o grochenwaith, lludw a darnau o esgyrn wedi'u llosgi, sy'n awgrymu ei fod wedi cynnwys claddedigaeth ar un adeg. Yn ogystal â chyflawni swyddogaeth angladdol, mae'n bosibl bod cofebau fel Carn Wnda wedi cael eu defnyddio at amrywiaeth o ddibenion, megis cynulliadau tymhorol neu er mwyn nodi digwyddiadau seryddol. Fodd bynnag, ar sail ei ffurf, ei ogwydd a'i leoliad yn y tirlun, mae George Nash yn cynnig mai lle claddu neu le er mwyn cynnal gweithgarwch angladdol defodol oedd Carn Wnda yn bennaf, yn debyg i'r beddrodau cyfagos.
Yn debyg i feddrodau siambrog cynhanesyddol eraill, megis cromlechi porthol megis yr enghraifft adnabyddus ym Mhentre Ifan, mae'n debygol yr adeiladwyd Carn Wnda yn ystod y Cyfnod Neolithig (tua 4000-2500 CC). Fodd bynnag, er bod cromlechi porthol yn tueddu i ddyddio o'r cyfnod Neolithig cynnar (tua 4000-3300 CC), mae beddrodau daear sefydlog yn perthyn i wahanol draddodiad adeiladu, y credir eu bod yn dyddio'n ôl i'r cyfnod Neolithig hwyr (tua 3000-2500 CC).
Heddiw, mae Carn Wnda yn eistedd yn heddychlon yn ei thirlun prydferth, gan ein hatgoffa o bobl y gorffennol a fu'n byw yn yr ardal hon 5000 o flynyddoedd neu fwy yn ôl.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment