Skip to main content

Catherine Duigan, Gareth Huws, Barry Hillier: 'Lletygarwch Unigryw Caergybi ar gyfer Iarlles Markievicz' (2022)

Disgrifiadau

Lede
'Dress suitably in short skirts and sitting boots, leave your jewels and gold wands in the bank, and buy a revolver.'
Iarlles Markievicz, Aelod Seneddol a chwyldroadwraig Wyddelig.

Stori
Yn ystod degawd 1912-1923, gwelwyd tonnau parhaus o ddigwyddiadau yn effeithio ar gymdeithas yn Iwerddon, gan gynnwys Cloi Allan 1913, y Rhyfel Byd Cyntaf, Gwrthryfel y Pasg 1916, ffliw Sbaen, y Rhyfel Annibyniaeth, y cytundeb Eingl-Wyddelig, rhannu Iwerddon, y Rhyfel Cartref ac yn olaf, y cam o dynnu mwyafrif lluoedd Prydeinig allan o Iwerddon. Gwelwyd yr angen i wleidyddion gymudo rhwng Dulyn a Llundain yn cynyddu, a gwelwyd symudiadau pobl ac adnoddau cysylltiedig eraill yn digwydd trwy borthladdoedd Môr Iwerddon yn bennaf, yn enwedig Dulyn a Chaergybi.

Gwelwyd arweinwyr Gwyddelig yn codi; bu farw rhai yn ystod yr ymdrech, a gwelwyd sawl un yn hawlio'u lle yn hanes y wlad. Bu i Iarlles Constance Georgine Markievicz (Gore-Booth gynt) gyflawni rhan amlwg trwy gydol y cyfnod, a dilynwyd ei gweithgareddau yn agos yn y wasg. Yn ystod Gwrthryfel y Pasg, bu Markievicz yn ymladd yng Nghanol Dinas Dulyn, yn enwedig yn St. Stephen’s Green. Fe'i harestiwyd a phlediodd yn euog i geisio 'achosi anfodlonrwydd ymhlith poblogaeth ddinesig Ei Mawrhydi'. Fe'i dedfrydwyd i farwolaeth, ond newidiwyd y ddedfryd i garchar am oes 'oherwydd ei rhyw yn unig'. Ei hymateb enwog oedd, 'Byddai'n dda gennyf petai gennych chi y cwrteisi i'm saethu'. Treuliodd Markievicz ei dedfryd yn Mountjoy (Dulyn) ac yng Ngharchardai Holloway ac Aylesbury yn Lloegr; fe'i rhyddhawyd yn ystod amnest cyffredinol ar gyfer gwrthryfelwyr Gwrthryfel 1916 ym 1917. Fe'i harestiwyd a'i dedfrydu i garchar unwaith eto ym 1918 am brotestio yn erbyn y posibilrwydd o gyflwyno gorfodaeth filwrol yn Iwerddon. Penderfynwyd ei charcharu yn Holloway, a oedd yn golygu y bu gofyn ei chludo mewn cwch ac ar drên o Ddulyn i Lundain.

Darllenom am daith Markievicz mewn adroddiad yn North Wales Chronicle, 24 Mai 1918. Hi oedd yr unig fenyw mewn grŵp o 46 o garcharorion Sinn Féin a gludwyd mewn un o longau'r Llynges Frenhinol dros nos, ac fe'i gwahanwyd wrth y dynion pan gyrhaeddant Caergybi. Aethpwyd â'r Iarlles yn dawel i'r orsaf heddlu leol, lle y'i trosglwyddwyd i ofal Dirprwy Brif Gwnstabl Prothero. Mae'n rhyfeddol nodi bod ei sbaniel mawr brown wedi teithio gyda hi, a nododd y papur newydd ei fod yn cael aros gyda hi yn y gell.

Ond ni ddylech gredu popeth yn y papurau newydd. Roedd yn amlwg bod y ffaith bod gan Constance Markievicz deitl wedi gwneud argraff ar yr awdurdodau milwrol a Heddlu Caergybi, a chaniatawyd iddi alw ei hun yn Iarlles, oherwydd cafodd driniaeth ffafriol gan Mr. Prothero a'i gyd heddweision. Am resymau yn ymwneud â gweddustra, nid oedd modd cynnig lle iddi dros nos yng ngwersyll y fyddin gyda'r dynion ac roedd yn gas gan Mr. Prothero ei chloi mewn cell laith, budr ac oer yng ngorsaf yr heddlu. Ar sail y ddealltwriaeth glir na fyddai hi'n ceisio dianc, rhoddwyd gwely a lletygarwch llawn iddi yn fflat yr Uwcharolygydd a leolwyd ar lawr uchaf yr orsaf. Mae tystiolaeth gan wyres Mr. Prothero yn datgan yn glir bod y trefniant unigryw hwn wedi digwydd a bod y chwyldroadwraig wydn wedi cael ei thrin mewn ffordd anrhydeddus a gyda pharch.

Ar y bore Sul tawel dilynol, cerddodd Iarlles Markievicz i'r orsaf rheilffordd gyda'i chi a Mr. Prothero. Cynhaliwyd safonau cymdeithasol ac fe'i rhoddwyd mewn adran dosbarth cyntaf ar y trên gyda Miss Annie Thomas (metron y Cartref Gorffwys lleol i Filwyr a Morwyr) a swyddog. Roedd gwarchodlu arfog o bedwar yn yr adran drws nesaf. Roedd yn synnu pan ofynnwyd iddi dalu am docyn ar gyfer ei chi, ond rhoddodd chwe swllt i Mr. Taylor, goruchwyliwr yr orsaf. Ar yr adeg hon, roedd y si wedi mynd ar led yng Nghaergybi a daeth
tyrfa fawr ynghyd yn yr orsaf i gael cipolwg o'r Iarlles, ond fe'u siomwyd gan bod y bleinds ar gau yn y cerbydau. Tybed a wnaeth hi agor y llenni rhyw ychydig i weld caeau gwyrddion Ynys Môn ar ôl i'r trên adael yr orsaf.

Croesawyd Iarlles Markievicz yng Ngorsaf Euston, Llundain, gan ddirprwyaeth o'i pherthnasau, ffrindiau a dymunwyr da a ddaeth â rhoddion a chyfarchion iddi, ac a aeth gyda hi i gerbyd yr heddlu a oedd yn aros amdani, er mwyn cychwyn ei thaith i Garchar Holloway. Ym 1918, fe'i hetholwyd fel yr AS fenywaidd gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin y DU, ond ni wnaeth fyth gymryd ei sedd. Gwasanaethodd yn y Dáil Éireann a daeth yn Weinidog Llafur (1919-1922). Hi yw un o'r menywod mwyaf steilus a rhyfeddol yn Hanes Iwerddon hyd heddiw, ac mae'n cael ei chofio o hyd yng Nghaergybi.

Mae Catherine Duigan (@c_duigan) yn awdures ac yn ymchwilydd Gwyddelig, mae'n Athro (Anrh.) Gwyddor Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn materion treftadaeth a hanes.

Mae Dr. Gareth Huws yn hanesydd sy'n ymddiddori mewn twf trefol a mudo yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'u heffeithiau ar symudiadau ar draws Môr Iwerddon.

Mae Barry Hillier yn ymchwilydd hanesyddol egnïol ac yn ymddiriedolwr Amgueddfa Forol arbennig iawn Caergybi: http://www.holyheadmaritimemuseum.co.uk/.

Mae dyled yr awduron yn fawr i Nora (wyres Mr. Prothero) a Simon Richards am rannu hanes eu teulu ac am roi'r llun o Mr. Prothero.

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Catherine Duigan, Gareth Huws, Barry Hillier
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
555
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment