Skip to main content

Gillian Brownson: 'Billy-in-the-Bowl' (2021)

Disgrifiadau

Lede
Yr awdur a pherfformiwr o Gaergybi Gillian Brownson yn adrodd gerdd am ‘Billy-in-the-Bowl’ a’r ferch a frwydrodd drosto.

Stori
Ymhlith trigolion Caergybi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd dyn o’r enw Billy. Ar
adeg pan oedd cymdeithas ynghlwm wrth syniadau cul am ‘berffeithrwydd’ y corff, roedd e’n
dioddef gan barablegia. O’r holl chwedlau pwysig sy’n ymddangos ar y blog ‘Holyhead:
Stories of a Port’ mae hon yn codi fy nghalon fwyaf oherwydd y ferch o Gaergybi a
frwydrodd yn heriol i’w garu.

Ni fyddwn ni’n gwybod dim am Billy a’i gariad oni bai am gyfansoddwr, actor a chantor
enwog o Iwerddon, Michael Kelly (1762-1826) – un o gyfeillion Mozart. Daeth ar draws
Billy tra yn aros yn y ‘Stanley Arms’ ar Victoria Terrace, ar ôl taith saith diwrnod o Lundain.
Dim ond ymweliad byr roedd hyn i fod i seren llwyfannau’r brifddinas cyn iddo groesi i
Ddulyn, ond dywedodd y meddygon nad oedd yn ddigon iach i deithio, ac arosodd am naw
wythnos. Yn ystod y cyfnod hir yna yng Nghaergybi, Billy oedd yr un i alw’n gyson bob bore
i holi am iechyd Mr Kelly. Cododd calon yr actor gyda straeon am ei gariad, oedd yn mynnu
ei briodi yn groes i ddymuniadau ei thad, a’r dyn roedd e wedi dewis iddi.

Dwi wrth fy modd yn meddwl am y fenyw ifanc hon: merch i ffermwr cefnog, yn herio
disgwyliadau ei thad a chymdeithas yn gyffredinol, er mwyn dilyn ei chalon. Priododd y
ddau, diolch i’w gwydnwch hi, a chawson nhw ddau fab. Mae’r gerdd hon yn dathlu ei
dewrder, ac mae’n gyflwynedig i ferched o bob oedran, gan obeithio bydden ni’n parhau i
herio syniadau confensiynol am harddwch, ac yn deall – fel deallodd Michael Kelly - mai
‘nid prydferth prydferthwch ond yr hyn a hoffwch’.

Billy-in-the-Bowl

There was a man of Holyhead,
Who got round in a bowl,
He had no legs, but his arms were strong,
and his life, it took its toll.

It didn’t stop a farmer’s daughter,
Who loved him with all her heart,
But her father had no wish for this,
And kept them both apart.

He offered her a fortune,
A handsome wealthy spouse
But Billy lived inside her heart,
She could not get him out!

She told her father, strong and true;
“I will not marry another,
I’ll marry Billy, and his bowl,
And I’ll be his children’s mother.”

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Gillian Brownson
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
478
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment