Skip to main content

Aled Lewis Jones: 'Medal Aur yr RNLI am Achub' (2020)

Disgrifiadau

Lede
Mae'r stori hon yn un mewn cyfres barhaus i arddangos rhai o'r gwrthrychau arbennig sydd gennym yng nghasgliad yr amgueddfa. Dyfarnwyd y Fedal Aur yn y stori hon dros gan mlynedd yn ôl i William Owen, Cocs Bad Achub Caergybi. Mae'n stori am ddewrder llwyr yn wyneb môr tymhestlog i achub y criw o naw ar fwrdd stemar bach, yr SS Harold. Dyma hefyd stori bad achub stêm cyntaf yr RNLI.

Stori
Roedd bad achub The Duke of Northumberland yn chwyldroadol gan ei fod yn defnyddio jetiau dŵr yn lle sgriwiau. Câi’r dŵr ei dynnu i mewn drwy ran flaen corff y llong a'i orfodi allan dan bwysedd mawr drwy fentiau yn ochr y bad. Roedd hyn yn ei wneud yn llawer haws i’w symud na badau achub eraill. Am nad oedd ganddo sgriw, roedd hefyd yn llai tebygol o gael ei ddal yn rhaffau llongau eraill. Cafodd ei adeiladu ym 1886 ac aeth i wasanaeth am y tro cyntaf yn Harwich ym mis Medi 1890. Cyfnod cyntaf y bad achub yng Nghaergybi oedd rhwng 1892 a 1893 a dychwelodd i wasanaethu yn y porthladd ym 1897.

Ar ddiwedd Chwefror 1908, roedd y llong stêm Harold yn cario clai llestri o Teignmouth i Lerpwl. Mewn tywydd mawr, methodd ei pheiriannau ac aeth yn amhosibl ei rheoli. Angorodd rhwng Ynys Arw ac Ynys Lawd oddi ar Gaergybi, ond dechreuodd ddrifftio ac aeth yn beryglus o agos at y creigiau rhwng y ddau bentir.

Am 2pm ar 22 Chwefror 1908, galwyd ar The Duke of Northumberland i roi cymorth ac fe'i lansiwyd ar fôr garw iawn. Mewn gwyntoedd a oedd yn agos at rym corwynt, cymerodd ddwy awr i gyrraedd y stemar anffodus o Lerpwl. Er gwaethaf y tonnau anferth, llwyddodd gwaith deheuig y cocs i fynd â’r bad achub yn ddigon agos i'r Harold i alluogi chwech o ddynion i gael eu tynnu oddi ar y llong fethedig â rhaffau. Llwyddodd y tri dyn olaf i neidio i'r bad achub. Cafodd y criw i gyd eu hachub ond drannoeth fe suddodd yr Harold.

Oherwydd ei fedr a'i ddewrder yn ystod yr achubiad, cyflwynwyd Medal Aur yr RNLI i’r Cocs William Owen a chyflwynwyd Medalau Arian i weddill y criw (gan gynnwys mab Owen). Dyma un o bedair Medal Aur a ddyfarnwyd i Orsaf Bad Achub Caergybi. Cyn hynny roedd Owen wedi ennill Medal Arian y Sefydliad a Medal Arian Cymdeithas Llongddrylliadau a Dyngarol Lerpwl am achub tri o griw’r Tenby Castle ym mis Rhagfyr 1889.

Cafodd y Fedal Aur ei chyflwyno i William Owen gan Dywysog Cymru yn Nhŷ Marlborough, Llundain ddydd Llun 4 Mai 1908. Bu Owen yn gwasanaethu fel Cocs rhwng 1899 a 1915. Bu hefyd yn Beilot Trinity House am 45 mlynedd. Yn y deyrnged iddo pan fu farw ym 1921, cafodd ei ddisgrifio â’r geiriau hyn: "He was as fearless as a lion, and was ever in the midst of the perils which beset the vast deep".

Owner:
Ports, Past and Present Project
Crëwr:
Aled Lewis Jones
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
423
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment