Skip to main content

Derek Webb: "100 Minutes" (2020)

Disgrifiadau

Lede
Yn 2012 cafwyd drama yn dathlu canmlwyddiant yr hediad cyntaf o Brydain i Iwerddon, ac
fe wnaeth hithau hefyd y daith ar draws Môr Iwerddon o Sir Benfro i Loch Garman
[Wexford].

Story (Welsh)
Dathlwyd canmlwyddiant yr hediad cyntaf erioed o Brydain i Iwerddon, a wnaed gan Denys Corbett Wilson ym mis Ebrill 1912, gyda nifer o weithgareddau a gynhaliwyd yn Abergwaun ac yn Inis Córthaidh [Enniscorthy] dros benwythnos 20–2 Ebrill 2012. Yn eu plith roedd arddangosfeydd, lansiad cyfrol newydd, dadorchuddio placiau a chofebau, hediadau seremonïol a champau hedfan. Yn Abergwaun, daeth Theatr Gwaun, ysgolion lleol, Neuadd y Santes Fair, gwesty’r Fishguard Bay, Canolfan Phoenix, Parc Lota, Neuadd Cadlanciau’r Môr, Band Pres Gwdig a channoedd o bobl leol i gyd at ei gilydd i gymryd rhan.

Ac yn rhan o’r dathliadau, cefais innau fy nghomisiynu i ysgrifennu drama lwyfan wedi ei
seilio ar yr hediad hanesyddol. Y bwriad oedd perfformio’r ddrama yn Theatr Gwaun, yn agos at y fan lle cychwynnodd Corbett Wilson am Iwerddon, ac wedyn yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Loch Garman. Oherwydd ystyriaethau ariannol roedd yn rhaid cadw’r cast yn fychan, ac roedd gofyn gallu cludo’r set yn ddidrafferth. Rhoddwyd y gwaith o ddylunio’r set i Headstrong Productions, sydd wedi’u lleoli yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, a chawsant hwythau’r syniad o seilio’r cefndir ar gynllun dwy adain awyren Bleriot.

Yn gynnar iawn yn y broses, penderfynais mai 100 Minutes fyddai teitl y ddrama, sef yr amser a gymerodd hi i gwblhau’r hediad, a byddai’r perfformiad yn cymryd yr un faint. O reidrwydd, roedd yn rhaid i bob actor chwarae sawl rôl, oni bai am yr un a fyddai’n portreadu Corbett Wilson ei hun. Roedd y cymeriadau’n cynnwys mam Corbett Wilson, peiriannydd, awyrenwyr eraill, gohebydd a ffermwr, ac roedd pob rôl yn galw am ddoniau hyblyg.

Y cast oedd Nick Richards, Gerry Fitzpatrick, Huw Richards a Jessica Sandry. Mae gwaith Nick Richards ar y llwyfan yn cynnwys rhannau yn Arcadia Tom Stoppard, a berfformiwyd yn theatr y Duke of York yn y West End, a The Turn of the Screw yn yr Old Vic ym Mryste ac mewn sawl cynhyrchiad o ddramâu Shakespeare; mae hefyd wedi ymddangos ar East Enders a chyfresi teledu eraill. Roedd Huw Richards a Gerry Fitzpatrick wedi cydweithio ar sawl cynhyrchiad cyn hyn; yn eu plith The Doctor and the Devils gan Dylan Thomas. Roedd Jessica Sandry wedi teithio’n helaeth gyda’r sioe un-fenyw Being Doris Day a chyda sawl cwmni theatr enwog, yn cynnwys Hijinx sydd wedi ennill gwobrau am eu gwaith.

Yn y ddrama hon, roedd gofyn newid dillad a chymeriad yn gyflym dros ben, ac fe wnaeth pawb yn rhyfeddol. Rwy’n siŵr fod sawl un yn y gynulleidfa yn credu bod gennym gast llawer mwy nag oedd mewn gwirionedd!

Mae’r ddrama’n agor mewn bwthyn ym Methune, Ffrainc, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan mai yno yr oedd Corbett Wilson yn beilot yn y Corfflu Awyr Brenhinol. Mae’n adrodd ei hanes yn hedfan dros Fôr Iwerddon wrth ei gyd-beilotiaid a’r stori honno yw craidd y ddrama, gyda’r cymeriad yn gadael Cymru ar ddiwedd Act 1 ac yn cyrraedd yn yr ail act.

Daw’r ddrama i ben gyda’i farwolaeth. Fe’i lladdwyd wrth iddo hedfan i ragchwilio dros linellau’r gelyn ym mis Mai 1915, a chollodd sawl un o’r gynulleidfa ddeigryn gyda phortread Jessica Sandry o’i fam yn derbyn y newydd.

Nodai’r ddrama garreg filltir bwysig yn y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn ogystal â thrasiedi bywyd ifanc a gollwyd yn y rhyfel, a chafodd dderbyniad brwd yn Abergwaun ac yn Loch Garman.

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Derek Webb
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
326
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment