Brandon C. Yen: 'Wordsworth ar y Ffordd i Gaergybi' (2020)
Disgrifiadau
Lede
Ar ddydd Sadwrn 29 Awst 1829, am naw o’r gloch y nos, ysgrifennodd William Wordsworth at ei deulu o Gaergybi. Roedd yn aros i fynd ar fwrdd llong am un ar ddeg, cyn hwylio am un yn y bore.
Stori
‘What dreadful weather!’ ebychodd Dorothy Wordsworth ar 28 Awst 1829. Roedd ganddi ‘a hundred fears’ oherwydd bod ei brawd William yn bwriadu croesi Môr Iwerddon o Gaergybi’r noson ganlynol.
Fel ddaeth yn amlwg wedyn, ‘three vessels had been wrecked on the Coast of Anglesey’ yn ystod y ddau ddiwrnod blaenorol, gyda cholledion sylweddol. Suddodd ‘The Alert’ (ar ei ffordd o Lerpwl i Ddulyn) ger Caergybi ei hun; aeth y Davies Hall (Lerpwl i Fiwmares) i lawr ger Penygogarth, a’r Myrtle (o Hull) ym Mae Cemaes.
Ar ddydd Sadwrn 29 Awst 1829, am naw o’r gloch y nos, ysgrifennodd William Wordsworth at ei deulu o Gaergybi. Roedd yn aros i fynd ar fwrdd llong am un ar ddeg, cyn hwylio am un yn y bore. Disgwyliai i’r cwch ager lanio yn Nulyn am saith o’r gloch fore dydd Sul – ‘God willing’, ategodd.
Yn y pen draw cafwyd ‘a quiet passage’. Disgynnodd y teithwyr yn Howth am wyth yn y bore, gan gychwyn ar daith o bum wythnos a fyddai’n mynd â nhw i lawer o lefydd adnabyddus: Mynyddoedd Wicklow, Glendalough, Glengarriff, Killarney, Edgeworthstown, Lough Erne a Sarn y Cawr, yn ogystal â Dulyn, Corc, Limerick, Derry/Londonderry a Belffast.
Dyna’r tro cyntaf, a’r unig dro, i Wordsworth ymweld ag Iwerddon; ond ym 1824, gyda’i wraig Mary a’u merch Dora, teithiodd ar yr ‘Irish Road’ yng Nghymru, sef ffordd fawr newydd Thomas Telford. Y pryd hynny, arohson nhw i yfed te gyda ‘Ledis’ Llangollen, Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, y ddwy yn wreiddiol o Kilkenny ond wedi ymgartrefu ym Mhlas Newydd ers 1780. Ailfedyddiodd Wordsworth eu dyffryn hardd yn: ‘GLYN CAFAILLGAROCH’ (‘Vale of Friendship’ – i fod!).
Ym 1824 cymerodd y Wordsworths y llong ager o Lerpwl i Fangor, gan edmygu ‘the stupendous preparations for the bridge over the Menai’. Croesodd William Bont Menai (un arall o gynlluniau Telford, a orffenwyd ym 1826) ar ei ffordd i Gaergybi ym 1829. Teimlodd fod y bont yn ei arwain i dragwyddoldeb: yn y ‘dazzling sun’ trawsnewidwyd ‘the Bridge and its chains etc. into brilliance […] the metal gave to it an aerial or celestial appearance that was quite enchanting’.
Croesodd y bardd Felicia Hemans yr un bont ym 1830 ar ôl dod i adnabod y Wordsworths yn Ardal y Llynnoedd yr haf hwnnw. Mae ganddi ddisgrifiad tebyg: ‘its chain work is so airy in appearance, that to drive along it seems almost like passing through the trellis of a bower’. Yr oedd y cyfan yn debyg i ‘native feature of the scene’, ei harddwch yn cyd-fynd â mynyddoedd ysblenydd Sir Gaernarfon.
Roedd Ynys Môn –Mona – yn enwog am ei gorffennol derwyddol. Ysgrifennodd nai William Wordsworth, Christopher, gerdd am ‘The Druids’, lle dychmygir Brenin Derwyddon Mona yn torri ‘quivering mistletoe’ gyda chyllell aur o dderwen. Meddyliai Hemans i’r gwrthwyneb, roedd Môn yn ‘land of prose’ ac yn ofer ceisiodd godi ‘the ghost of a Druid, or even of a tree, on its wide, monotonous plains’.
Meddyliodd Wordsworth hefyd nad oedd nunlle yn fwy ‘dreary than the Interior of Anglesea’. Ond cynigiodd Caergybi bosibiliadau mwy gweledigaethol, gan ymddangos fel drws cyfrinachol i fyd anhysbys tu hwnt i Fôr Iwerddon. Roedd hi’n nosi. Yr unig beth a welodd oedd ‘20 Lamps or more at equal distances’, yn creu ‘a bright semicircle half enclosing a segment of the sea’.
Yn ddiweddarach, cofiodd Wordsworth Ffordd Caergybi wrth iddo gofnodi ei wrthwynebiadau i reilffordd Kendal a Windermere yn y Morning Post ym 1844. Ni chredodd bod modd i dwristiaid elwa lawer o reilffyrdd a ffyrdd newydd os nad oedd ganddynt ‘an eye to perceive, and a heart to feel’. Gwawdiodd y ‘pilgrims of fashion’ a ruthrodd heibio ‘in their carriages, not a few of them perhaps discussing the merits of “the last new Novel,” or poring over their Guide-books, or fast asleep’. Yr oedd hynny’r un mor wir am Ffordd Caergybi, oedd wedi treiddio ‘the mountainous country of Wales’; er, yn yr achos hynny, cyfaddefodd werth ‘the plea of utility, especially as expediting the communication between England and Ireland, more than justifies the labours of the Engineer’.
Yn y cyfnod yn dilyn y Ddeddf Uno rhwng Prydain ac Iwerddon ym 1800, gwelodd Wordsworth ystyr wleidyddol yn Ffordd Caergybi. Ar hyd ei oes teimlodd yn gryf am berthynas Iwerddon gyda Phrydain. Ym 1794, wrth gynllunio cylchgrawn radicalaidd, ystyriodd benodi asiant yn Nulyn ‘to disseminate it’. Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio a’i radicaliaeth yn gwanhau, trodd yn erbyn Gwaredred Pabyddol, gan gyfeirio’n ddirmygus at ‘superstitions’ y Pabyddion Gwyddelig.
Ac eto, yn yr un modd ag a welodd Bont Menai yn debyg i drothwy i fyd gweledigaethol, cyfeiriodd at Baradwys Milton wrth sôn am arfordir Iwerddon megis ‘the bright confines of another world’. Yr un mor awgrymog oedd yr unig ddelwedd farddonol a gasglodd o’i daith ym 1829: pâr o eryrod yn Sir Antrim, a ‘Flew high above Atlantic waves, to draw | Light from the fountain of the setting sun’.
Yr oedd Caergybi yn ddrws i fyd a dreiddwyd gan oleuni, byd rhyfeddol o gyfoethog a gwyrthiol.
Tamaid hanesyddol
Cafwyd llawer o fewnfudwyr Gwyddelig a’u traddodiadau yn Cumbria yn ystod oes Wordsworth. Gallai Wordsworth fod wedi teithio i Ddulyn o Whitehaven, porthladd sylweddol ar arfordir gorllewinol Cumbria.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment