Skip to main content

Elizabeth Edwards: 'Virginia Woolf yn teithio i Iwerddon, 1934' (2020)

Disgrifiadau

Lede
Mae Virginia Woolf yn fwyaf adnabyddus fel nofelydd Saesneg arloesol ac aelod allweddol o grŵp Bloomsbury, ond mae ei dyddiaduron a'i llythyrau'n dangos ei bod hefyd yn deithiwr profiadol, ac yn awdur teithio. Unwaith yn unig yr ymwelodd ag Iwerddon, ond mae ei hymatebion cyferbyniol i'r bobl a'r lleoedd a welodd yno yn taflu rhywfaint o oleuni ar agweddau’r Brydain fetropolitanaidd at Iwerddon yn y 1930au.

Stori
Bu Virginia Woolf yn teithio’n eang ym Mhrydain ac Ewrop gydol ei hoes, ond unwaith yn unig yr ymwelodd ag Iwerddon. Ar 27 Ebrill 1934, hwyliodd o Abergwaun i Cork ar daith foduro gyda'i gŵr Leonard, gan ymweld â'r nofelydd Elizabeth Bowen yn Bowen’s Court, Kildorrey, cyn troi i fyny arfordir y gorllewin i Galway ac Ynysoedd Aran. Ar ôl aros am gyfnod byr yn Nulyn, dychwelodd i Lundain drwy Gaergybi ar ôl rhyw bythefnos i ffwrdd.

Cyfnewidiol, wrth gwrs, oedd tywydd y gwanwyn ar y daith allan. ‘We’ve driven all across Wales today in storms and sudden blasts of sunlight when all the sheep and gorse blazed white and yellow’, ysgrifennodd Woolf at Ethel Smyth, wrth aros yng Ngwesty’r Fishguard Bay am y fferi dros nos (Letters, 296). Wrth ysgrifennu at ei nai Quentin Bell, bu hefyd yn crybwyll pryderon cyfarwydd am deithio ar y môr: ‘all points to death by drowning in the Irish channel. It is pouring and howling. I can see the boat rocking even in the harbour… how I envy you sleeping on dry land’ (Letters, 297).

Cofnododd llythyrau a chofnodion dyddiadur nesaf Woolf, a ysgrifennwyd o Sir Cork, ei hargraffiadau cychwynnol ynglŷn ag Iwerddon. Roedd wedi’i tharo gan ei harddwch a’i ‘melancholy’ (sef gair sy’n cael ei ddefnyddio drosodd a thro yn ei dyddiadur a’i llythyrau wrth sôn am Iwerddon), a hefyd ‘a sense that life is receding’ (Diary, 209). I Woolf, mae gwacter y dirwedd – ‘great stretches of virgin sea shore’ (Diary, 209) – yn adlewyrchu cyflwr cymdeithas Iwerddon. Yn ei barn hi mae Iwerddon yn ymddangos yn debyg i’r Eidal, Groeg neu Gernyw, ond yn fwy gwyllt, ac yn aml yn wag – ‘everybody lamenting, because nobody comes any more, and the gentry have all fled’, meddai wrth ei chwaer, Vanessa Bell (Letters, 299).

Cafodd taith Woolf drwy Iwerddon effaith barhaol arni. Mae'r daith yn ôl i Lundain, a gofnodwyd mewn pytiau o sylwadau yn ei dyddiadur, yn awgrymu ei bod wedi treulio amser yn pwyso a mesur yr hyn roedd hi wedi'i weld. Hiraeth, a phryder ynglŷn â chyfnod o newid, yw nodweddion y myfyrdodau hyn, a leisiodd hi drwy gymeriadau a welwyd ar y daith – ystlyswr eglwys, siopwr – a fuasai’n ddigon bodlon gweld cefn Arlywydd y Wladwriaeth Rydd (Diary, 218). ‘“We dont [sic] want this hate – it does nobody any good” as the porter at Holyhead said to me this morning when he remarked how few cattle now came over’ (Diary, 218).

Tamaid hanesyddol
Defnyddiodd Virginia Woolf ei thaith i Iwerddon ar gyfer ei nofel ym 1937, The Years.

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Elizabeth Edwards
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
510
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment