Fflotila Caergybi: Currachod a choryglau’r seintiau crwydrol (2021)
Disgrifiadau
Mae Marged Pendrell yn artist gweledol sy’n byw ac yn gweithio’n ddwyieithog yn Eryri, Gogledd Cymru. Mae hi'n gweithio'n bennaf mewn 3D gan ddefnyddio cyfryngau cymysg.
---
Ar ôl darllen chwedlau am fordeithiau’r seintiau Cristionogol cynnar yma, teimlais y gallwn i wario rhan fwyaf o’r amser yn creu cychod dychmygol am eu mordeithiau crwydrol niferus.
Roeddwn i eisiau archwilio’r coryglau mewn ffordd wahanol i’r ‘Cychod Bregus’ sydd yn y Fflotila, a wnes i fynd ati i’w gwneud gyda deunydd cyferbyniol.
Wrth imi greu’r cychod hyn, roeddwn hefyd yn darllen The Brendan Voyage gan Tim Severin. Ym 1976–7 croesodd Severin a’i griw Fôr yr Iwerydd i Newfoundland mewn cwch tebyg i gurragh er mwyn profi bod teithiau mor hir yn bosib. Mae ei ddisgrifiadau o’r daith yn fywiog iawn.
Mae’r cychod yma i gyd wedi eu gwneud yn y gweithdy yn Rhyd, sydd o dan y Moelwyn Bach ym Mharc Genedlaethol Eryri.
– Marged Pendrell
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment