Skip to main content

Gillian Brownson: Mary's Monologue (2021)

Disgrifiadau

Yr awdur a’r perfformiwr o Gaergybi, Gillian Brownson, sy’n ystyried gweithredoedd a champau arwrol un o’r ychydig fenywod a oroesodd o’r RMS Leinster, Mary Coffey.

Mae’r ymosodiad torpedo trasig ar yr RMS Leinster ar 10 Hydref 1918 wedi’i gofnodi fel y golled bywydau gwaethaf ym Môr Iwerddon. O’r 813 oedd ar ei bwrdd, cafodd 569 o eneidiau eu colli. Trigolion o Gaergybi oedd llawer o’r criw, gan gynnwys y Capten Birch ei hun, oedd wedi symud ei deulu i’r dref fel canolfan i hwylio ohoni. Ond, o’u cymharu â’u cydweithwyr o ddynion, ychydig iawn o aelodau’r criw oedd yn fenywod. Yn drasig ddigon, wnaeth y ddwy stiwardes o Gaergybi, Louisa Parry a Hannah Owen, ddim goroesi’r ymosodiad. Er hynny, fe ofalodd eu prif stiwardes o Iwerddon, Mary Coffey, ei bod hithau’n adrodd eu stori arwrol, wedi iddyn nhw golli eu bywydau mewn ymgais i achub menywod a phlant eraill.

Owner:
Gillian Brownson
Crëwr:
Gillian Brownson
Gwybodaeth drwydded
CC BY-NC 4.0 International
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
4/5/2023
Gwelediadau:
461
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment