Jana Davidson: Jemimas Abergwaun (Hanes Llafar, 2021)
Disgrifiadau
Cyn Goresgyniad y Ffrancod, roedd Jemima Nicholas yn grydd cyffredin, ond diolch i’w rôl angerddol wrth amddiffyn y dref, cadwyd ei henw yn fyw, nid yn unig wrth ailadrodd digwyddiadau 1797, ond yn arbennig wrth i fenywod lleol ymgymryd â’r rôl ar achlysuron arbennig.
Yn ôl y sôn, yn ystod Goresgyniad y Ffrancod yn Abergwaun ym 1797, aeth Jemima Nicholas, crydd a draig o ddynes, ati ar ei phen ei hun i gipio 12 o filwyr Ffrengig, eu gorymdeithio trwy’r dref a’u cloi yn eglwys Santes Fair. Trwy adrodd y stori dro ar ôl tro dros y ddwy ganrif ddiwethaf, mae’r myth amdani wedi tyfu ac mae pobl y dref wedi cymryd ati gymaint fel bod Yvonne Fox, menyw leol, wedi chwarae Jemima yn ystod y dathliadau deucanmlwyddol ym 1997, yn ystod yr ailgread mawr o’r digwyddiad. Bu ei dehongliad o’r cymeriad mor boblogaidd, fel y cyflawnodd y rôl gannoedd o weithiau ar ôl hynny, a hi fu Jemima swyddogol y dref. Bu Abergwaun yn galaru marwolaeth sydyn ac annisgwyl Fox yn 2010 ac am ryw ychydig, nid oedd unrhyw un ar gael i gyflawni’r rôl, tan yn ddiweddar.
Bu Jana Davidson yn sôn wrth Borthladdoedd, Ddoe a Heddiw, am effaith Yvonne Fox a sut y mae menywod lleol wedi cydio ym mantell sgarlad Jemima yn fwy diweddar.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment