Llyfr pwrcasu ceffylau, [Glofeydd Fernhill], 1910-1952
Disgrifiadau
1 gyfrol. Llyfr prynu ceffylau gyda rhwymiad a phenawdau yn cysylltu'r gyfrol â Naval Colliery Co (1897) Ltd, Fernhill Collieries Limited a'r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae'r gyfrol yn cofnodi'r wybodaeth ganlynol: dyddiad prynu; enw; oed; uchder; lliw; rhyw; disgrifiad; pris prynu; deliwr; lle caiff ei anfon i'r gwaith; manylion trosglwyddo; sut y cawsant eu gwaredu [gan gynnwys manylion marwolaethau ceffylau neu a gawsant eu gwerthu]; a dyddiad y gwaredwyd. Mae'r gyfrol yn cynnwys nifer o fewnosodiadau rhydd a grëwyd gan Fernhill Collieries ynghylch prynu, cynnal a chadw a chael gwared ar geffylau unigol, gan gynnwys adroddiadau dyddiol ceidwad ceffylau ar gyfer 1917. Ceir hefyd fewnosodiadau rhydd o 1947 yn ymwneud â gwaredu ceffylau unigol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment