Skip to main content

Milwyr yn gwersylla ger Llanelli yn ystod Streic y Rheilffyrdd, 1911

Disgrifiadau

'Yr Aflonyddwch Mawr' yw'r enw a roddir ar y cyfnod rhwng 1908 a 1914, pan fu nifer o anghydfodau diwydiannol ym Mhrydain. Yn ne Cymru, aeth glowyr cwmni'r Cambrian Combine ar streic, gan wrthdaro gyda'r fyddin yn Nhonypandy ym 1910; ac arweinodd streic gan ddocwyr Caerdydd at ymosodiadau ar gymuned Tseinieaidd y dref.

Yn ystod haf 1911, aeth gweithwyr rheilffyrdd Prydain ar streic gan achosi anhrefn mewn rhannau o'r wlad a galwyd ar y fyddin i ymyrryd er mwyn cadw'r trenau i redeg. Ddydd Iau, 17 Awst, daeth y trenau i stop yn Llanelli pan safodd y streicwyr ar un o'r croesfannau yn y dref. Y diwrnod canlynol, galwyd ar y fyddin i glirio'r llinell ond yn fuan iawn collwyd rheolaeth ar y sefyllfa, darllenwyd y Ddeddf Derfysg, taniwyd sawl ergyd, a lladdwyd dau ddyn diniwed (Leonard Worsell a John John). Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ymgasglodd torf gan ymosod ar gartref a lle gwaith un o'r ynadon lleol a fu'n bresennol yn y digwyddiad cynharach. Tua'r un adeg, cafodd nifer o wagenni rheilffyrdd a oedd yn cludo tanwyr eu rhoi ar dân, gan achosi ffrwydriad a laddodd pedwar o bobl gan anafu nifer o bobl eraill.

Mae'r ffotograff hwn yn dangos un o filwyr Catrawd Swydd Gaerhirfryn yn eillio yng ngwersyll y gatrawd ger Llanelli yn ystod y streic.

Darllen pellach:
John Edwards, 'Remembrance of a Riot: the story of the Llanelli Railway Strike Riots of 1911' (Llanelli Borough Council, 1988).

Milwr yn eillio yn y gwersyll yn ystod Streic y Rheilffyrdd, 1911.

Owner:
Cardiff Central Library
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Ganolog Caerdydd
Copyright Details:
Cardiff Central Library 2002
Publisher Ref:
GTJ69243
Eitem wedi’i llwytho:
27/7/2009
Date originally created:
1911
Gwelediadau:
2002
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment