Model o Fad Achub Cyntaf Caergybi
Disgrifiadau
Ym 1828 cododd Cymdeithas Môn er Gwarchod Bywyd o Longddrylliad £80 i ddiogelu bad achub pwrpasol cyntaf Caergybi. Adeiladwyd y bad achub 32 troedfedd gan yr adeiladwr cychod lleol Henry McVeagh. Gallai gludo deg ar hugain o bobl mewn tywydd peryglus ac anodd.
Yn ystod misoedd y gaeaf, cadwyd y bad achub o dan gynfas ar Ynys yr Halen, yn barod i’w godi i’r môr. Mae'n debyg iddi hwylio gyntaf ar 28 Ebrill 1829, pan cafodd 24 o ddynion o o ddau longddrylliad ar wahân, y brig 'Harlequin' ac 'Fame’, eu hachub. Mae cofnodion yn awgrymu bod y bad achub wedi achub o leiaf 100 o fywydau pellach dros y 25 mlynedd nesaf.
Adeiladwyd y model hwn gan y diweddar Leslie M. Jones. Mae modelau pellach o fadau achub Caergybi, a wnaed hefyd gan Leslie, i’w gweld yn Amgueddfa Forwrol Caergybi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment